William Salesbury
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
William Salesbury (tua 1520 - tua 1584) oedd un o ysgolheigion mwyaf Cymru yng nghyfnod y Dadeni Dysg, a fu'n gyfrifol, gyda Thomas Huet, am wneud y cyfieithiad cyntaf cyflawn y Testament Newydd i'r Gymraeg, a gyhoeddwyd ym 1567.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Ei flynyddoedd cynnar
Cafodd ei eni yn Llansannan, yn yr hen Sir Ddinbych ond treuliodd ran helaeth o'i lencyndod ym Mhlas Isa, ar gyrion Llanrwst. Fe'i addysgwyd ym Mhrifysgol Rhydychen lle astudiodd Hebraeg, Groeg a Lladin. Yno daeth yn ymwybodol o lyfrau gwaharddiedig Martin Luther a William Tyndale a thechnegau argraffu. Yn 1547 cyhoeddodd geiriadur Saesneg-Cymraeg yn 1547 ac Oll synnwyr pen Kembero ygyd, casgliad o ddiarhebion Cymreig a wnaed gan y bardd Gruffudd Hiraethog.
[golygu] Cyfieithu
Fel Erasmus a Martin Luther, credai William Salesbury yn gryf mewn gwneud y Beibl ar gael i bawb yn eu mamiaith. Cyhoeddoedd gyfieithiad Cymraeg y darlleniadau o'r Efengylau a'r Epistolau sydd yn y Llyfr Gweddi Gyffredin Saesneg dan y teitl Kynniver Llith a Ban (1551).
Bu William Salesbury, a oedd yn Brotestant i'r carn, yn cuddio mewn lloches drwy gydol teyrnasiad y frenhines Babyddol Mari I, felly nid argraffwyd dim byd ganddo yn y cyfnod hynny. Dechreuodd ei gyfieithu unwaith eto gydag esgyniad y Frenhines Elisabeth i'r orsedd. Yn 1563 argymhellodd y Senedd i basio deddf a wnai cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg yn un o flaenoriaethau esgobion Cymru a Henffordd. Mae'n gyfrifol hefyd am un o'r ceisiadau cynharaf i ddisgrifio seiniau'r iaith Gymraeg yn ei A briefe and a playne introduction, teachyng how to pronounce the letters in the British tong (1550, ailargraffwyd 1567).
[golygu] Ei effaith ar yr iaith Gymraeg
Ymdrechai William Salesbury i wneud y Gymraeg yn iaith safonol a fyddai'n dderbyniol gan ysgolheigion drwy ei Lladineiddio. Er enghraifft, roedd y rhagenw gwrthrychol gwrywol yn cael ei ynganu [i] (fel y mae'n dal i fod heddiw), ond fe'i sillafwyd ei gan William Salesbury er mwyn gwneud y cysylltiad tybiedig rhyngddo a'r Lladin eius yn fwy amlwg. Mae'r sillafiad honno wedi ennill y dydd, ond mae sillafiadau eraill ganddo, megis eccles am eglwys a discipulon am disgybl(i)on, wedi diflannu'n llwyr, ac, ar y cyfan, nid yw ei system sillafu wedi goroesi.
[golygu] Llyfryddiaeth
- D.R. Thomas, The Life and Work of Bishop Davies and William Salesbury (1902)
- Isaac Thomas, William Salesbury a'i Destament (1967)
- idem, Y Testament Newydd Cymraeg 1551-1620 (1976)