Gruffudd Hiraethog
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Bardd oedd Gruffudd Hiraethog (m. 1564). Cafodd ei eni yn Llangollen. Mae'n bosibl iddo gael y llysenw 'Hiraethog' oherwydd ei gysylltiadau cryf â Phlas Iolyn, cartref Dr Elis Prys, a leolir ger Mynydd Hiraethog (Sir Ddinbych). Ei athro barddol oedd Lewys Morgannwg. Roedd yn gyfaill i William Salesbury a gyhoeddodd gasgliad o ddiarhebion a loffiwyd o'r llawysgrifau gan Gruffudd, dan y teitl Oll synnwyr pen Kembero ygyd.
[golygu] Llyfryddiaeth
Y golygiad safonol o waith y bardd yw'r gyfrol swmpus,
- D.J. Bowen (gol.), Gwaith Gruffudd Hiraethog (Caerdydd, 1990)
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Beirdd yr Uchelwyr | ||
---|---|---|
Dafydd ap Gwilym | Dafydd Gorlech | Gruffudd ap Dafydd ap Tudur | Gruffudd Hiraethog | Guto'r Glyn | Gwilym Ddu o Arfon | Gwilym Tew | Hywel Cilan | Iolo Goch | Rhisiart ap Rhys | Rhys Goch Eryri | Simwnt Fychan | Tudur ap Gwyn Hagr |