Hebraeg
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Hebraeg yn iaith Semitaidd a siaradir gan ychydig dros 7 miliwn o bobl yn Israel a thros y byd. Iaith wreiddiol yr ysgrythurau Iddewig (Hen Destament y Beibl Cristnogol) yw Hebraeg Beiblaidd (neu Glasurol). Diflanodd Hebraeg fel iaith lafar yn yr ail ganrif OC, ond parhaodd fel iaith ysgrifenedig. Cafodd Hebraeg ei hadfywio fel iaith lafar yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a daeth yn iaith swyddogol gwladwriaeth fodern Israel yn yr ugeinfed ganrif.
Er mai'r mwyaf amlwg ydy hi, un ymhlith nifer o ieithoedd Iddewig yw Hebraeg. Ymhlith y lleill y mae Iddew-Almaeneg neu Yiddish-Daitsch a Ladino (Sbaeneg Iddewig). Cafodd y rhain eu defnyddio gan wahanol gymunedau Iddewig tra bod Hebraeg llafar yn farw, ond crebachu bu eu hanes yn sgil yr adfywiad yn nefnydd yr Hebraeg, gan adael lleiafrifoedd bychain iawn o siaradwyr yr ieithoedd hyn, os o gwbl.
Un o wyrthiau ieithyddol yr ugeinfed ganrif oedd adfywiad Hebraeg, na fu'n iaith gyntaf i neb ers canrifoedd. Mae mewnfudwyr i Israel, o Ewrop, Unol Daleithiau America, yr hen Undeb Sofietaidd ac Affrica, er enghraifft yn cael eu trochi yn yr Hebraeg trwy gyrsiau Wlpan.
Ysgrifennir Hebraeg yn ei gwyddor ei hun, o'r dde i'r chwith. Mae 22 symbol yn yr wyddor, pob un yn gytsain. Dynodir llafariaid gan system o bwyntiau, ond fel arfer dim ond mewn cyhoeddiadau i blant a dysgwyr y'u defnyddir.