205 CC
Oddi ar Wicipedia
4ydd ganrif CC - 3edd ganrif CC - 2il ganrif CC
250au CC 240au CC 230 CC 220au CC 210au CC 200au CC 190au CC 180au CC 170au CC 170au CC 160au CC
[golygu] Digwyddiadau
- Brenin yr Ymerodraeth Seleucaidd, Antiochus III, yn dychwelyd o'i ymgyrch yn y dwyrainwedi rhoi diwedd ar wrthryfeloedd llywodraethwyr Media, Persia ac Anatolia.
- Philip V, brenin Macedon yn gwneud cytundeb heddwch a Gweriniaeth Rhufain; mae'r Rhufeiniaid yn cydnabod hawl Philip ar Illyria, ond rhaid iddo roi'r gorau i'w gynghrair a Hannibal.
- Nabis, brenin Sparta yn dechrau rhyfel yn erbyn Cynghrair Achaea. Mae byddin y cynghrair, dan Philopoemen, yn ei orfodi i encilio o Messene.
- Philip V, brenin Macedon, yn adeiladu llynges ac yn gwneud cynghrair a môrladron o Aetolia a Sparta yn erbyn Rhodos. Rhyfel Creta yn dechrau, rhwng Macedon, Cynghrair Aetolia a nifer o ddinasoedd Creta ar un ochr, a Rhodos, sy'n nes ymlaen yn cael cymorth Attalus I, brenin Pergamon, Byzantium, Cyzicus, Athen a Knossos.
- Publius Cornelius Scipio yn mynnu croesi i Ogledd Affrica gyda byddin i geisio gorfodi Hannibal i adael yr Eidal i amddiffyn Carthago. Er gwaethaf anfodlonrwydd Senedd Rhyfain, mae'n croesi i Sicilia gyda byddin, yn rhannol o wirfoddolwyr.
- Byddin Garthaginaidd dan Mago Barca yn glanio yn Liguria ac yn cipio Genoa a Savona.
- Mae Ptolemi IV, brenin yr Aifft, yn marw ac yn cael ei olynu gan ei fab ieuanc Ptolemi V. Cedwir marwolaeth y brenin yn gyfrinach.
[golygu] Genedigaethau
[golygu] Marwolaethau
Ptolemi IV, brenin yr Aifft