Antoni Gaudí
Oddi ar Wicipedia
Pensaer o Gatalonia oedd Antoni Gaudí i Cornet (25 Mehefin 1852 – 10 Mehefin 1926).
Ganed ef yn Reus, ac astudiodd yn yr Escuela Técnica Superior de Arquitectura, Barcelona, lle graddiodd yn 1878. Gweithiodd yn ninas Barcelona am flynyddoedd, a bu'n gyfrifol am nifer o adeiladau byd-enwog yno, yn cynnwys eglwys y Sagrada Familia a'r Casa Milà.
Ar 7 Mehefin 1926, roedd Antoni Gaudí yn croesi stryd ym Marcelona pan darawyd ef gan dram, a by farw yn yr ysbyty dri diwrnod yn ddiweddarach.
Yn 1984 a 2005 cyhoeddwyd nifer o'i weithiau, (Park Güell a Palau Güell, Casa Milá, Casa Batlló, casa Vicens a'r Sagrada Família yn Barcelona a'r Cripta de la Colonia Güell yn Santa Coloma de Cervelló), yn Safle Treftadaeth y Byd.
[golygu] Gweithiau
- Casa Vicens (Barcelona)
- Finca Güell (Barcelona)
- El Capricho (Comillas, Cantabria)
- Templo Expiatorio de la Sagrada Familia (Barcelona)
- Casa Milà (La Pedrera) (Barcelona)
- Casa Batlló (Barcelona)
- Palacio Güell (Barcelona)
- Parque Güell (Barcelona)
- Casa Calvet (Barcelona)
- Colegio Teresiano (Barcelona)
- Palacio Episcopal (Astorga)
- Casa Botines (León)
- Cripta de la Colonia Güell (Santa Coloma de Cervelló)
- Bellesguard (Barcelona)
- Restauración de la Catedral (Palma de Mallorca)
- Hotel Atracción (Efrog Newydd)