Arthur Wellesley, Dug 1af Wellington
Oddi ar Wicipedia
Y Dug Wellington | |
|
|
Cyfnod yn y swydd 22 Ionawr 1828 – 16 Tachwedd 1830 |
|
Rhagflaenydd | Frederick John Robinson |
---|---|
Olynydd | Charles Grey |
Cyfnod yn y swydd 17 Tachwedd 1834 – 9 Rhagfyr 1834 |
|
Rhagflaenydd | William Lamb |
Olynydd | Robert Peel |
|
|
Geni | 1 Mai 1769 Dulyn neu Sir Meath |
Marw | 14 Medi 1852 Walmer, Caint |
Plaid wleidyddol | Plaid Tori |
Roedd Arthur Wellesley, Dug 1af Wellington (1 Mai 1769 - 14 Medi 1852) yn gadfridog a Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig a aned yn Iwerddon i deulu uchelwrol o dras Seisnig, ond a oedd wedi ymsefydlu yn Iwerddon ers blynyddoedd lawer.
Ganed ef fel Arthur Wesley (newidiodd y teulu eu cyfenw i Wellesley yn ddiweddarach) yn Nulyn, y trydydd o bum mab Garret Wesley, Iarll 1af Mornington. Ymunodd a'r fyddin, a daeth i amlygrwydd yn India. Yn ystod y rhyfeloedd Napoleonaidd bu'n ymladd yn erbyn y Ffrancwyr yn Sbaen a Portiwgal, ac mae'n fwyaf adnabyddus am ei fuddugoliaeth dros Napoleon ym Mrwydr Waterloo.
Yn ddiweddarach bu'n Brif Wenidog y Deyrnas Unedig ddwywaith, o 1828 hyd 1830 yna eto am gyfnod byr yn 1834. Roedd yn aelod o'r blaid Dorïaidd.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.