Cambrian Airways
Oddi ar Wicipedia
Cambrian Airways oedd cwmni awyr cenedlaethol Cymru cyntaf.
Ffurfiwyd y cwmni yn 1935 gan y masnachwr S. Kenneth Davies, Cadeirydd a Chyfarwyddwr Rheoli cyntaf y cwmni, yng Nghaerdydd.
Dechreodd fel cwmni awyr siarter, yn hedfan o faes awyr gwreiddiol Caerdydd ar y blaendraeth yn Rhos Pengam ger Y Sblot, tua dwy filltir o ganol y ddinas.
Yn 1951 gadawodd Kenneth Davies y cwmni i fod yn Gyfarwyddwr BEA (British European Airways).
Symudodd eu gwasanaethau i faes awyr Caerdydd (Rhws) yn 1954.
Yn 1976, ar ôl bron i 40 mlynedd, diflannodd yr enw pan ymsoddodd Cambrian Airways gyda BEA.[1]
[golygu] Teithiau
- Cymru: Caerdydd-Abertawe • Caerdydd-Hwlffordd • Caerdydd-Penarlâg
- Lloegr: Caerdydd-Bournemouth • Caerdydd-Bryste • Caerdydd-Lerpwl (Speke) • Caerdydd-Llundain (Heathrow) • Caerdydd-Manceinion • Caerdydd-Southampton
- Yr Alban: Caerdydd-Caeredin • Caerdydd-Glaschu
- Iwerddon: Caerdydd-Belffast • Caerdydd-Corc • Caerdydd-Dulyn
- Guernsey: Caerdydd-Guernsey
- Jersey: Caerdydd-Jersey • Abertawe-Jersey
- Ynys Manaw: Caredydd-Ynys Manaw (Ronaldsway)
- Llydaw: Caerdydd-Dinard
- Ffrainc: Caerdydd-Paris
[golygu] Ffynhonell
- ↑ History of Cambrian Airways, the Welsh airline from 1935-1976, STADDON, T.G. 1979
[golygu] Dolenni allanol
cambrianairways.co.uk Gwefan answyddogol yn coffau'r cwmni