Castell Aberdyfi
Oddi ar Wicipedia
Castell a leolir ger Glandyfi, Ceredigion, yw Castell Aberteifi. Dim ond y mwnt sydd i'w weld yno heddiw, sydd yn cael ei gyfeirio ati fel y Domen Las.
Codwyd y castell cyntaf yn 1156 gan Rhys ap Gruffudd, mewn ymateb i fygythiad i'w diroedd o'r gogledd gan Owain Gwynedd, a oedd wedi ymgasglu byddin i ymdeithio i Geredigion. Cododd Rhys ffôs i allu rhoi brwydr yn ôl Brut y Tywysogion.
Ni wireddwyd y bygythiad, ond adeiladwyd castell ar y safle beth bynnag. Adeiladwyd mwnt ar ben crib isel a oedd yn rhedeg drost y tir corsiog a amgylchwyd ar bob ochr gan Afon Dyfi ac Afon Einion. Mae'r domen yn dal tua 20 troedfedd o uchder gyda hydredd o tua 30 troedfedd ar ei chopa; amgylchwyd hi gan ffos ddwfn.
Ymosododd yr Iarll Normanaidd Roger de Clare ar y castell a'i gipio tua'r flwyddyn 1158. Ond ail-gipiodd yr Arglwydd Rhys y castell ar ôl hynny. Cynhaliodd Llywelyn ab Iorwerth gynulliad yng Nghastell Aberdyfi yn 1216 pan roddodd diroedd de Cymru i dywysogion eraill mewn cyfnewid am eu gwrogaeth a'u ffyddlondeb.
Cestyll Tywysogion Deheubarth | |
---|---|
Aberdyfi | Aberteifi | Carreg Cennen | Dinefwr | Y Dryslwyn | Nefern | Newydd Emlyn | Rhaeadr Gwy | Trefilan | Ystradmeurig |