Castell Carreg Cennen
Oddi ar Wicipedia
Castell ger Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, yw Castell Carreg Cennen. Mae'r castell ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. O dan y castell mae rheddfa ac ogof. Mae'r castell yn sefyll rhai milltiroedd i'r dwyrain o Gastell Dinefwr, castell pwysicaf tywysogion Deheubarth a safle eu llys.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Y castell Cymreig
Adeiladwyd y castell cyntaf gan y Cymry, efallai gan Rhys ap Gruffudd o Ddeheubarth, ond roedd pobl yn defnyddio'r safle uwchben craig galchfaen yn yr oesau cynhanesyddol ac yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Ceir y cyfeiriad cyntaf at y castell yn 1248 pan ailgipiodd Rhys y castell o ddwylo'r Saeson. Yn 1257 cipiodd Maredudd ap Rhys Gryg, oedd yn gynghreiriad pwysig i'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd yn y de, y castell oddi ar Rhys yn ei dro ac am gyfnod roedd yn safle pwysig ym mrydrau'r Cymry am annibyniaeth dan y tywysog hwnnw.
[golygu] Y castell Seisnig
Cafodd y castell cyntaf ei ddifetha'n llwyr ac adeiladwyd y castell sydd yno heddiw gan Edward I, Brenin Lloegr yn y blynyddoedd ar ôl 1277 ac ychwanegwyd iddo yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.
Cafodd y castell ei ddifrodi yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr a'i ddifetha ym 1462, yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau.
[golygu] Traddodiad
Mae yna chwedl fod y castell wedi ei adeiladu gan Urien Rheged a'i fab, Owain a bod yna farchog - efallai'r Brenin Arthur - yn cysgu o dan y castell.
[golygu] Cadwraeth a mynediad
Mae Castell Carreg Cennen (SN 667 191) ar rhestr Cadw. Mae'n gorwedd ger bentref Trapp, 3 milltir a hanner ar hyd y ffordd yno o bentref Llandeilo.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Paul R. Davies, Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988)
Cestyll Tywysogion Deheubarth | |
---|---|
Aberdyfi | Aberteifi | Carreg Cennen | Dinefwr | Y Dryslwyn | Nefern | Newydd Emlyn | Rhaeadr Gwy | Trefilan | Ystradmeurig |