Castell y Dryslwyn
Oddi ar Wicipedia
Castell yn Sir Gaerfyrddin yw Castell y Dryslwyn. Saif ar ben bryn yn Nyffryn Tywi. Tua 4 milltir i ffwrdd mae Castell Dinefwr, prif gaer a llys tywysogion Deheubarth.
[golygu] Hanes
Adeiladwyd y castell cyntaf gan Rhys Gryg, un o feibion yr Arglwydd Rhys, yn y 1220au. Fe'i hetifeddwyd gan ei fab Maredudd ap Rhys Gryg a'i fab yntau Rhys ap Maredudd. Gwarchaewyd y castell gan luoedd Seisnig yn 1287, gan gwympo ar 5 Medi yn yr un flwyddyn. O dan reolaeth Seisnig estynwyd y dref fechan oedd wedi datblygu ar lethrau'r bryn. Dymchwelwyd y castell yn gynnar yn y 15fed ganrif.
[golygu] Cadwraeth a mynediad
Mae'r adfeilion a welir ar y safle heddiw yng ngofal Cadw. Mae'n agored trwy'r flwyddyn i bawb. Mae'r safle (SN 554 204) yn ymyl y B4297, 5 milltir i'r de-orllewin o Landeilo.
Cestyll Tywysogion Deheubarth | |
---|---|
Aberdyfi | Aberteifi | Carreg Cennen | Dinefwr | Y Dryslwyn | Nefern | Newydd Emlyn | Rhaeadr Gwy | Trefilan | Ystradmeurig |