Castell Aberteifi
Oddi ar Wicipedia
Codwyd Castell Aberteifi tua'r flwyddyn 1100 yn Aberteifi, Ceredigion.
Adeiladwyd castell cyntaf mwnt a beili Aberteifi (tua 1093), a godwyd tua tair milltir oddiwrth safle'r castell presennol, mae'n debyg tua'r un amser sefydlwyd y dref gan Roger de Montgomery, barwn Normanaidd. Adeiladwyd rhadredegydd y castell presennol gan Gilbert Fitz Richard Arglwydd Clare, wedi i'r un cynt gael ei ddinistrio. Etifeddodd ei fab, Gilbert de Clare, Iarll 1af Penfro y castell yn 1136. Yr un flwyddyn, cafodd Owain Gwynedd fuddugoliaeth fawr ar Normaniaid y dref ym Mrwydr Crug Mawr. Cymerwyd a llosgwyd y dref, er yr amddiffynwyd y castell ei hun yn llwyddianus gan y Normaniaid a oedd dan arweiniad Robert fitz Martin.
Ail-gipiyd y castell gan y Normaniaid a'r Saeson a daeth i feddiant Roger de Clare, 3ydd Iarll Hertford. Yn 1166 cymerwyd y castell gan Rhys ap Gruffydd, a ail-adeiladodd hi mewn carreg yn 1171. Yn 1176 cynhalwyd yr Eisteddfod cyntaf y gwyddys amdani yn y castell. Ar farwolaeth Rhys yn 1197 ymdaerai ei feibion, Maelgwn a Gruffudd, dros etifeddiaeth y castell ac yn y diwedd rhoddodd Maelgwn ei frawd Gruffudd i ddwylo'r Saeson a gwerthodd y castell i'r brenin John o Loegr. Yn ddiweddarach delwyd y castell yn enw William Marshal, Iarll 1af Penfro.
Cipiodd Llywelyn Fawr y castell yn 1215 ac yn senedd Aberdyfi yn 1216 fe'i rhoddwyd i feibion Gruffudd ap Rhys o'r Deheubarth, ond yn 1223 ail-gipwyd o gan William Marshal, 2il Iarll Penfro. Yn 1231 cymerwyd y castell ar ran Llywelyn gan Rhys Gryg a'i gyngrheiriaid. Daliai Llywelyn y castell hyd ei farwolaeth yn 1240. Ar ei farwolaeth, disgynodd y castell yn ol i ddwylo'r Saeson, ac yn 1244 ail-adeiladwyd hi gan Walter Marshal, 5ed Iarll Penfro, gyda waliau tref ar gyfer gwarchod pellach. Gweddillion y castell hwn sydd i'w gweld uwchben yr afon heddiw.
Cafodd ei ddifetha'n sylweddol yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr, a hyd at y 18fed ganrif defnyddwyd hi fel carchar. Ar ddechrau'r 19eg ganrif, adeiladwyd cartref o fewn waliau'r castell Castle Green House gan gyfuno'r tŵr gogleddol yn ei adeiladwaith. Yn y 1940au ni chadwyd hi mewn cyflwr da, a gadewyd hi i ddadfeilio ymhellach gan y perchennog hyd i'r waliau fod angen cael eu cynnal. Prynwyd y castell gan Gyngor Ceredigion yn Ebrill 2003 ac maent yn bwriadu ei adfer fel rhan o gynllun dadeni Aberteifi.
Cestyll Tywysogion Deheubarth | |
---|---|
Aberdyfi | Aberteifi | Carreg Cennen | Dinefwr | Y Dryslwyn | Nefern | Newydd Emlyn | Rhaeadr Gwy | Trefilan | Ystradmeurig |