DEMO
Oddi ar Wicipedia
Mudiad pwyso yw DEMO, DEMOAK neu 'Demokrazia Euskal Herriarentzat' (Democratiaeth i Wlad y Basg) ar gyfer hawliau siaradwyr Basgeg yn Iparralde (rhan ogleddol Gwlad y Basg sydd yn Ffrainc). Ffurfiwyd y mudiad yn y flwyddyn 2000.
[golygu] Nôd y mudiad
- Bod llywodraeth Ffranc yn datblygu polisi iaith effeithiol ar gyfer y defnydd o'r Basgeg o fewn addysg ac yn gyfredinol.
- Sefydliad polisi ar gyfer holl sefydlaidau yng Nhogledd Gwlad y Basg, gan greu Department Gwlad y Basg.
- Bod hawliau carcharorion gwleidyddol Basgaidd yn cael eu parchu, fel eu bod yn cael eu lleoli yn agos i'w cartrefi (fel rheol can eu gwasgaru ar hyd a lled Ffrainc a Sbaen, yn groes i ddeddfau cenedlaethol, UE a rhyngwladol).
[golygu] Tactegau
Mae'r mudiad yn dilyn athroniaeth dull di-drais o ymgyrchu. Yn aml mae gweithgareddau'r mudiad yn cyfuno protest, difrod troseddol a chelfyddyd. Yn y gorffenol mae hyn wedi cynnwys:
- Addurno'r ochr y ffordd i Ascain-Saint-Jean-de-Luz am 3 cilomedr gyda 500 o luniau carcharorion gwleidyddol Basgaidd sydd wedi eu gwasgaru mewn carchardai ar hyd a lled Ffrainc a Sbaen
- Atal awyren rhag gadael maes awyr Biarritz, drwy gadwyno ei holwynion
- Atal y TGV rhwng Hendaye a Paris wrth i 20 o brotestwyr gadwyno eu hunain i'r cledrau.
[golygu] Dolen allanol
Gwefan DEMO (eu)(es)(fr)