Gemau Olympaidd 1908
Oddi ar Wicipedia
Cynhalwyd Gemau Olympaidd 1908, a'u adnabyddwyd yn swyddogol fel Gemau'r Olympiad IV, yn Llundain yn 1908. Bwriadwyd cynnal y gemau rhain yn Rhufain yn wreiddiol. Ar y pryd, rhain oeddy pumed Gemau Olympaidd Modern. Ond fe is-raddwyd Gemau Olympaidd 1906 ers hynnu gan y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol ac felly cysidrir gemau 1908 i fod y pedwyredd Gemau Olympaidd Modern, gan gadw o fewn y patrwm cylched pedair mlynedd. Llywydd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol oedd Baron Pierre de Coubertin.
Roedd yr awdurdodau Eidalaidd yn paratoi'r isadeileddau ar gyfer y gemau pan echdorodd Vesuvius ar 7 Ebrill 1906, gan ddinistrio dinas Naples ger llaw. Fe ail-gyfeirwyd yr arian ar gyfer y gemau tuag at ail-adeiladu Naples, felly roedd angen lleoliad newydd. Dewiswyd Llundain, a cynhalwyd y gemau yn White City wrth ochr yr Arddangosfa Ffranco-Brydeinig, a oedd yn ddigwyddiad llawe mwy nodweddiadol ar y pryd. Berlin a Milan oedd yr ymgeiswyr eraill i ddal y Gemau.
[golygu] Chwaraeon
Cystadlwyd 22 o chwaraeon, yn cynyrchioli 24 o ddisgyblaehau chwaraeon, yng Ngemau 1908. Cysidrwyd nofio, plymio a polo dŵr fel tair disgyblaeth o'r un chwaraeon. Roedd tug-of-war yn ran o athletau a rhestrwyd dau ffurf o gôd pêl-droed cymdeithas a Rygbi'r Undeb gyda'u gilydd.
|
|
[golygu] Cenhedloedd a Gyfranogodd
Roedd athletwyr yn cynyrchioli 22 Pwyllgor Cenedlaethol Olympaidd. Fe wnaeth yr Ariannin, Ffindir, Twrci, a Seland Newydd eu ymddangosiad cyntaf yn y gemau fel tîm Awstralasia.
[golygu] Cyfanswm Medalau
Dyma'r 10 cenedl a enillodd y cyfanswm uchaf o fedalau.
Safle | Cenedl | Aur | Arian | Efydd | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|---|
1 | Prydain Fawr (cenedl gwesteiwyr) | 56 | 51 | 39 | 146 |
2 | Unol Daleithiau | 23 | 12 | 12 | 47 |
3 | Sweden | 8 | 6 | 11 | 25 |
4 | Ffrainc | 5 | 5 | 9 | 19 |
5 | Yr Almaen | 3 | 5 | 5 | 13 |
6 | Hwngari | 3 | 4 | 2 | 9 |
7 | Canada | 3 | 3 | 10 | 16 |
8 | Norwy | 2 | 3 | 3 | 8 |
9 | Eidal | 2 | 2 | 0 | 4 |
10 | Gwlad Belg | 1 | 5 | 2 | 8 |