Geraint Howells
Oddi ar Wicipedia
Geraint Wyn Howells, Yr Arglwydd Geraint o Bonterwyd (15 Ebrill 1925 - 18 Ebrill 2004), oedd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.
Bu'n Aelod Seneddol dros Aberteifi (1974-1983), ac wedyn, ar ôl i'r etholaeth gael enw newydd, Ceredigion a Gogledd Penfro (1983-1992). Collodd ei sedd yn annisgwyl i Cynog Dafis (Plaid Cymru) yn 1992 a bu hyn yn ergyd galed nid yn unig i Geraint Howells ei hun ond i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gyffredinol yng Nghymru. Cafodd ei wneud yn Arglwydd Geraint o Bonterwyd yr un flwyddyn a bu'n aelod gweithgar o Dŷ'r Arglwyddi.
Rhagflaenydd: Elystan Morgan |
Aelod Seneddol dros Geredigion 1974 – 1992 |
Olynydd: Cynog Dafis |