Elystan Morgan
Oddi ar Wicipedia
Gwleidydd Cymreig yw Elystan Morgan neu Barwn Elystan-Morgan (ganwyd 7 Rhagfyr, 1932).
Dechreuodd ei yrfa wleidyddol fel aelod o Blaid Cymru. Safodd dros y blaid yn Wrecsam ddwywaith (1955, 1959) ac ym Meirionnydd (1964). Gadawodd Blaid Cymru i ymuno â'r Blaid Lafur ar ôl etholiad cyffredinol 1964.
Ym Mawrth 1966 cipiodd sedd Ceredigion oddi ar Roderick Bowen a bu'n aelod seneddol Ceredigion am wyth mlynedd tan iddo golli'r sedd yn Chwefror 1974 i Geraint Howells, Rhyddfrydwr ac amaethwr lleol. Yr oedd Elystan wedi digio nifer o gefnogwyr y blaid wrth ochri gyda charfan Seisnig yng nghangen Plaid Lafur yr etholaeth a oedd yn uchel eu cloch yn erbyn sefydlu ysgol gyfun ddwyieithog yn Aberystwyth.
Cafodd ei wneud yn farwn a heddiw mae'n arddel y teitl Barwn Elystan-Morgan.