Ceredigion (etholaeth seneddol)
Oddi ar Wicipedia
Sir etholaeth | |
---|---|
![]() |
|
Ceredigion yn siroedd Cymru | |
Creu: | 1536 |
Math: | Tŷ'r Cyffredin |
AS: | Mark Williams |
Plaid: | Y Democratiaid Rhyddfrydol |
Etholaeth SE: | Cymru |
Mae etholaeth Ceredigion yn ethol aelod i senedd San Steffan. Mark Williams (Y Democratiaid Rhyddfrydol) yw aelod seneddol presennol.
Tan fod Elystan Morgan yn ennill y sedd i San Steffan yn Mawrth 1996 Roderick Bowen oedd yr aelod seneddol. Roedd Elystan yn cyn aelod o Blaid Cymru ond roedd wedi cael ei ddadrithio gan fethiant y blaid i ennill seddau ac ymunodd â'r Blaid lafur ar ôl etholiad cyffredinol 1964. Collodd y sedd yn Chwefror 1974 i Geraint Howells, Rhyddfrydwr ac amaethwr lleol. Yr oedd Elystan wedi digio nifer o gefnogwyr y blaid wrth ochri gyda charfan Seisnig ym Mhlaid Lafur yr etholaeth a oedd yn uchel eu cloch yn erbyn sefydlu ysgol gyfun ddwyieithog yn Aberystwyth.
Yn 1983 newidiwyd ffiniau'r etholaeth i gynnwys gogledd Penfro yn ogystal.
Yn 1992 enillodd Cynog Dafis y sedd oddi wrth Geraint Howells gan ddod o'r drydedd safle yr oedd yn yr etholiad blaenorol. Roedd Cynog yn cynrychioli Plaid Cymru ond yr oedd hefyd wedi gwneud cyngrair gyda'r Blaid Werdd lleol hefyd.
[golygu] Aelodau Senedol
- 1885 – 1885: David Davies (Ryddfrydol)
- 1886 – 1895: William Bowen Rowlands (Ryddfrydol)
- 1895 – 1921: Matthew Vaughn-Davies (Ryddfrydol)
- 1921 – 1923: Ernest Evans (Ryddfrydol Clymblaid)
- 1923 – 1932: Rhys Hopkin Morris (Ryddfrydol, 1923-1924 / Ryddfrydol Annibynnol, 1924-1932)
- 1932 – 1945: Owen Evans (Ryddfrydol)
- 1945 – 1966: Roderic Bowen (Ryddfrydol)
- 1966 – 1974: Elystan Morgan (Llafur)
- 1974 – 1992: Geraint Howells (Ryddfrydol, 1974-1988 /Y Democratiaid Rhyddfrydol, 1988-1992)
- 1992 – 2000: Cynog Dafis (Plaid Cymru)
- 2000 – 2005: Simon Thomas (Plaid Cymru)
- 2005 – presennol: Mark Williams (Y Democratiaid Rhyddfrydol)
[golygu] Gweler Hefyd
Etholaethau seneddol yng Nghymru | |
---|---|
Llafur |
Aberafan | Alun a Glannau Dyfrdwy | Bro Morgannwg | Caerffili | Castell-nedd | Conwy | Cwm Cynon | Delyn | De Caerdydd a Phenarth | De Clwyd | Dyffryn Clwyd | Dwyrain Abertawe | Dwyrain Casnewydd | Gogledd Caerdydd | Gorllewin Abertawe | Gorllewin Casnewydd Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro | Gŵyr | Islwyn | Llanelli | Merthyr Tudful a Rhymni | Ogwr | Pen-y-bont ar Ogwr | Pontypridd | Rhondda | Torfaen | Wrecsam | Ynys Môn |
Y Democratiaid Rhyddfrydol |
Brycheiniog a Sir Faesyfed | Canol Caerdydd | Ceredigion | Maldwyn |
Ceidwadol | |
Plaid Cymru |
Caernarfon | Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr | Meirionnydd Nant Conwy |
Annibynnol | |
Cymru Etholaeth Ewropeaidd: Llafur (2) | Ceidwadol (1) | Plaid Cymru (1) |