Gerallt Pennant
Oddi ar Wicipedia
Cyflwynydd teledu a radio yw Gerallt Pennant (ganwyd ym Mangor).
Magwyd Gerallt ar fferm Derwin Bach, Bryncir. Addysgwyd yn Ysgol Gynradd Garndolbenmaen, Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes, a graddiodd mewn Cymraeg a Hanes Cymru yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.
Wedi graddio, fe weithiodd fel athro ysgol gynradd am ddwy flynedd. Ynghanol yr 1980au, ymunodd â'r BBC yng Nghaerdydd fel ymchwilydd ar raglenni teledu plant. Aeth yn ei flaen i gynhyrchu rhaglenni garddio, a'r rhaglen Ar y Tir o Fangor.
Bu'n cyflwyno rhaglenni fel Ffermio rhwng 1997 a 2005 a bu hefyd yn cyflwyno rhaglen hynod o boblogaidd ar S4C sef Clwb Garddio. Cafodd y cyfle hefyd i gynhyrchu a chyfarwyddo cyfres deledu Iolo Williams, sef Crwydro ar S4C.
Mae Gerallt yn parhau i gyflwyno rhaglen radio boblogaidd Galwad Cynnar ar Radio Cymru bob bore Sadwrn.
Ers 2007, mae'n ohebydd y gogledd ar raglen Wedi 7 ar S4C.
Mae’n byw ym Mhorthmadog ers 1997.
[golygu] Dolenni Allanol
- [1] Datganiad i'r wasg gan S4C.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.