Ysgol Gynradd Garndolbenmaen
Oddi ar Wicipedia
Ysgol gynradd Gymraeg ydy Ysgol Gynradd Garndolbenmaen. Lleolir yr ysgol yng Ngarndolbenmaen, tua saith milltir i'r gogledd o Borthmadog, Gwynedd. Wedi cwblhau blwyddyn 6 yn y system addysgol (tua 11 oed), bydd disgyblion yr ysgol fel arfer yn mynychu Ysgol Eifionydd, Porthmadog ond bydd rhai ohonynt (sy'n byw i'r gogledd o Bant Glas fel rheol) yn mynychu Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes.
Mae tua 50 o ddisgyblion yn yr ysgol[1], mae nifer yn teithio yno o bentrefi cyfagos megis Pant Glas, Bryncir, Cwm Pennant a Golan. Mae'r nifer yma wedi aros yn gyson am oleiaf ugain mlynedd.
Mae rhai o'i chyn-ddisgyblion yn cynnwys y cyflwynwr Gerallt Pennant a Pedr Fardd.