Gethin Jones (cyflwynydd teledu)
Oddi ar Wicipedia
31ain cyflwynydd Blue Peter yw Gethin Clifford Jones (ganwyd 12 Chwefror 1978) ers 27 Ebrill 2005. Bu hefyd yn cyflwyno Uned 5 a Popty gynt. Mynychodd Ysgol Coed-y-Gof ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.
Roedd hefyd yn un o'r Jones's a dorodd record y byd Jones Jones Jones am gasglu ynghyd y nifer fwyaf o bobl yn rhannu’r un cyfenw yn Stadiwm y Mileniwm yn 2006, gan fod yn un o 1,224 Jones a gymerodd rhan.[1][2][3]
Cymreodd ran ar raglen Strictly Come Dancing ar BBC One, gan ddawnsio am y tro cyntaf ers bu'n dawnio a chanu gwerin yn Eisteddfod yr Urdd pan oedd yn iau.[4][5]
[golygu] Ffynonellau
- ↑ 'Darlledu Sioe’r Jonesiaid a Dorrodd Record Byd' 26 Tachwedd 2006 S4C
- ↑ 1,224 o Jonesiaid yn torri record byd!
- ↑ Meet the Joneses for world record BBC 19 Gorffennaf 2006
- ↑ Show has a grand day out with Gethin Jones, Sian Eirian, Western Mail 22 Tachwedd 2007
- ↑ Gethin ar wefan Strictly Come Dancing
Rhagflaenydd: Simon Thomas |
Cyflwynydd Blue Peter Rhif 31 2005 – presennol |
Olynydd: '' |