Gwenda Owen
Oddi ar Wicipedia
Gwenda Owen | |
---|---|
![]() |
|
Clawr CD, Tonnau'r Yd | |
Gwybodaeth Cefndirol | |
Enw Genedigol | Gwenda Owen |
Lle Geni | ![]() |
Galwedigaeth(au) | Cantores, cyfansoddwraig |
Offeryn(au) Cerddorol | Gitar |
Blynyddoedd | 1991 – |
Label(i) Recordio | Fflach / Cyhoeddiadau Gwenda |
Gwefan | gwendaowen.co.uk |
Aelodau | |
Gwenda Owen a Geinor Haf |
Cantores Gymraeg yw Gwenda Owen (ganwyd 16 Gorffennaf 1965) ac mae hi fwyaf enwog am ennill cystadleuaeth Cân i Gymru a'r Ŵyl Ban Geltaidd gyda Cân i'r Ynys Werdd yn 1995.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Dyddiau Cynnar
Magwyd Gwenda ar aelwyd gynnes ffermdy Capel Ifan ym mhentref Pontyberem yng Nghwm Gwendraeth, ardal sy'n agos iawn ati, ac ardal y mae Gwenda'n ei hystyried fel "lle bach gore'r byd".
Aeth i'r ysgol fabanod ym Mhontyberem, ac yna ymlaen i Ysgol Uwchradd y Gwendraeth, ond roedd ei diddordeb mewn canu wedi dechrau ymddangos ymhell cyn mynd i'r ysgol uwchradd. Dechreuodd Gwenda ganu pan oedd ond rhyw chwech oed, a hynny drwy'r capel a'r ysgol Sul, ac eisteddfodau lleol hefyd.
Pan ddaeth Deris, chwaer hynaf Gwenda, yn ôl o wersyll yr Urdd Llangrannog wedi dysgu rhai cordiau gitâr, fe ddysgodd rhai ohonynt i'w chwaer fach. Cafodd Gwenda ei gitâr gyntaf pan aeth ei thad â dau lo i'w gwerthu ym marchnad Caerfyrddin, a dod adref i'r fferm â gitâr yr oedd wedi ei phrynu â'r arian a gafodd am y ddau lo. Er mwyn dysgu mwy o gordiau, cafodd Gwenda wersi gitâr a ffurfiodd Deris, Linda a Gwenda grwp o'r enw 'Seiniau'r Gwendraeth', fu'n diddanu mewn cyngherddau ym Mhontyberem ac ardaloedd eraill yn Sir Gaerfyrddin.
[golygu] Casét cyntaf
Yn 1991 rhyddhaodd Gwenda ei chasét cyntaf ar label Fflach sef Ffenestri'r Gwanwyn. Gwerthodd y casét yn dda, ac enillodd Gwenda nifer o gefnogwyr ar hyd a lled Cymru. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, rhyddhawyd ei hail gasgliad o ganeuon sef 'Aur o Hen Hafau', gyda phrif gân y casét yn addasiad o glasur y Monkees sef 'Daydream Believer'. Daeth y trobwynt cyntaf yng ngyrfa Gwenda pan enillodd cystadleuaeth Cân i Gymru ym 1995 a ddarlledwyd yn fyw o Bafiliwn Pontrhydfendigaid. 'Cân i'r Ynys Werdd' oedd enw'r gân fuddugol, wedi'i hysgrifennu ar y cyd gan Richard Jones ac Arwel John. Bu'n Gwenda'n ddigon ffodus i fynd yn ei blaen i'r Ŵyl Ban Geltaidd yn yr Iwerddon gyda'r gân hefyd, ac ennill yno'n ogystal.
Rhyddhawyd 'Dagre'r Glaw', ei thrydedd casgliad o ganeuon ym 1995, gan grwydro ychydig oddi ar y steil yr oedd pawb wedi ei gysylltu â cherddoriaeth Gwenda. Tra bod steil caneuon 'Ffenestri'r Gwanwyn' ac 'Aur o Hen Hafau' yn fwy canol y ffordd a gwlad, roedd y steil newydd a gafwyd ar 'Dagre'r Glaw' yn fwy gwerinol a Cheltaidd, wedi'i ysgogi efallai gan naws werinol 'Cân i'r Ynys Werdd'.
Yna dechreuodd weithio ar opera sebon dyddiol S4C Pobol y Cwm fel actores ychwanegol tu ôl i far Y Deri Arms, a chafodd rannau mewn cyfresi fel 'Y Glas' a ffilmiwyd ar gyrion Caerfyrddin.
Yn Nadolig 1998 rhyddhawyd 'Teithio 'Nôl' ar CD a chasét, ac roedd yr albwm cyfan â naws werinol, Celtaidd iddo.
[golygu] Brwydr cancr y fron
Daeth trobwynt arall ym mywyd Gwenda yn 1999, pan ddarganfu ei bod yn dioddef o gancr y fron, a hithau 'mond yn ei thridegau cynnar. Yn amlwg, roedd hyn yn ergyd mawr iawn iddi gan ei bod newydd ddod trwy ysgariad hefyd. Yn ystod ei salwch, bu Gwenda o dan ofal Dr Theo Joannides a'i staff yn Ysbyty Singleton, Abertawe.
Yn ystod ei salwch, penderfynodd Gwenda rannu'i phrofiadau gyda gwrandawyr BBC Radio Cymru, a darlledwyd y rhaglen ddogfen 'Dyddiadur Gwenda' ar yr orsaf yn wythnosol, gyda Garry Owen yn cyflwyno. Roedd y rhaglen yn croniclo cyfnodau trist a phoenus Gwenda yn ogystal â'r cyfnodau hapus yn ystod ei brwydr yn erbyn y clefyd. Bu wrthi'n brysur yn cyfansoddi caneuon newydd hefyd - rhywbeth fu'n hwb ac ysgogiad iddi frwydro'n erbyn y cancr - yn y gobaith o'u cyhoeddi ar CD newydd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli 2000.
Wedi gwella'n llwyr o'r afiechyd, rhyddhaodd Gwenda'r CD 'Neges y Gân' yn ystod wythnos y 'Steddfod - CD o wyth cân obeithiol, gyda'r elw'n mynd tuag at adran ymchwil cancr Ysbyty Singleton. Ni fu'n hir cyn gwerthu allan.
[golygu] Gwenda a Geinor
Yn 2001, enillodd merch Gwenda, Geinor Hâf gystadleuaeth Cân i Gymru gyda'r gân "Dagrau Ddoe". Dyma'r tro cyntaf i fam a merch ennill y gystadleuaeth hon.
Dechreuodd Gwenda a Geinor berfformio gyda'u gilydd fel deuawd ar lwyfannau led led Cymru, gan ymddangos ar raglenni teledu fel Noson Lawen a Heno. Ym misoedd olaf 2001, rhyddhawyd y CD "Gyda Ti", sef casgliad cyntaf Gwenda a Geinor fel deuawd.
Yn haf 2002, cyhoeddodd Gwenda ei dyweddiad ag Emlyn Dole - cyfansoddwr talentog, gweinidog a chyfieithydd, a phriodwyd y ddau yng nghapel Caersalem, Pontyberem ym mis Medi 2006.
Cyhoeddodd Gwasg Gomer hunangofiant Gwenda sef "Ymlaen â'r Gân" yn Rhagfyr 2003, i gyd-fynd gyda CD nesaf Gwenda a Geinor 'Mae'r Olwyn yn Troi'.
Yn 2005, rhyddhawyd y CD "Caneuon Bach y Pentre" yn seiliedig ar gymeriadau enwog y rhaglen deledu "Pentre Bach" ar S4C.
Yn 2007, bu'r ddwy yn nôl yn y stiwdio yn recordio casgliad newydd o ganeuon ar gyfer y CD "Tonnau'r Ŷd" a ryddhawyd yn Rhagfyr 2007. Mae'r casgliad yn cynnwys fersiwn o'r emyn "Mae D'Eisiau Di Bob Awr" yng nghwmni côr Bois y Castell o Landeilo - cân sy'n deyrnged i'r diweddar Ray Gravell.
Wedi cyfnodau'n byw ar gyrion Hendy-gwyn ar Daf a Chaerfyrddin, mae Gwenda bellach yn byw gydag Emlyn ei gŵr a'r teulu yn y ffermdy lle'i magwyd hi ym Mhontyberem.
[golygu] Disgograffi
- Ffenestri'r Gwanwyn, 1991, (Recordiau Fflach)
- Aur o Hen Hafau, 1993, (Recordiau Fflach)
- Dagre'r Glaw, 1995, (Recordiau Fflach)
- Teithio Nôl, 1998, (Recordiau Fflach)
- Neges y Gân, 2000, (Recordiau Fflach)
- Goreuon Gwenda, 2001, (Recordiau Fflach)
- Gyda Ti, 2001, (Cyhoeddiadau Gwenda)
- Mae'r Olwyn yn Troi, 2003, (Cyhoeddiadau Gwenda)
- Caneuon Bach y Pentre, 2005, (Cyhoeddiadau Gwenda)
- Tonnau'r Ŷd, 2007, (Cyhoeddiadau Gwenda)