John Morris-Jones
Oddi ar Wicipedia
Bardd, ysgolhaig, gramadegydd a beirniad llenyddol oedd Syr John Morris-Jones (17 Hydref, 1864 - 16 Ebrill, 1929). Gosododd seiliau cadarn i ysgolheictod Cymraeg a safonau'r iaith Gymraeg fel cyfrwng llenyddol yn yr 20fed ganrif. Enwir Neuadd John Morris-Jones, neuadd Gymraeg Prifysgol Cymru, Bangor, ar ei ôl.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Cafodd ei eni ym mhentref bychan Trefor, plwyf Llandrygarn, Sir Fôn. Yn fuan wedi hynny, symudodd y teulu i fyw yn Llanfairpwllgwyngyll. Wedi cael ei addysg gynnar yn Ysgol Friars, Bangor, a Choleg Crist, Aberhonddu, enillodd ysgoloriaeth i Goleg Yr Iesu, Rhydychen i astudio mathemateg. Yno cafodd flas ar astudio'r iaith Gymraeg a llenyddiaeth Gymraeg, ac 'roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Dafydd ap Gwilym yn 1880. Aeth ymlaen wedyn i astudio'r Gymraeg yn Rhydychen dan yr Athro Syr John Rhŷs.
Penodwyd Morris-Jones yn ddarlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn 1888 ac yn 1895 yn athro yn yr Adran Gymraeg newydd; ymhlith ei ddisgyblion oedd Syr Ifor Williams. Fe'i urddwyd yn farchog yn 1918. Bu farw yn 1929 ac fe'i claddwyd yn Llanfairpwllgwyngyll.
[golygu] Ysgolheictod
Cyn ei amser ef, roedd sillafiad y Gymraeg yn amrywio a'r gramadeg heb ei safoni. Campwaith John Morris-Jones oedd creu safon i orgraff y Gymraeg, yn seiliedig ar ymchwil ieithyddol, ac sydd yn parhau yn yr iaith heddiw.
Gyda'i hen gyfaill John Rhŷs, yntau'n ysgolhaig Celtaidd o fri yn ei ddydd, golygodd John Morris-Jones argraffiad o Llyfr yr Ancr (1894). Ond yn bwysicach na hynny, golygodd argraffiad newydd o glasur Ellis Wynne Gweledigaethau'r Bardd Cwsg sy'n astudiaeth bwysig ond hefyd yn un o'r gweithiau ganddo a ysgogodd lenorion cyfoes i droi yn ôl at arddull coeth rhyddiaith Gymraeg glasurol i godi eu safonau a dadwneud effaith niweidiol dylanwad pobl fel William Owen Pughe ar y Gymraeg fel iaith lenyddol.
[golygu] Y bardd
Dim ond un gyfrol o farddoniaeth a gyhoeddodd ond roedd y gyfrol honno, Caniadau (1907) yn ddylanwadol yn ei dydd. Y cerddi enwocaf ynddi efallai y 'Cân i Famon', 'Cymru Fu: Cymru Fydd' a'r cyfieithiadau o rai o gerddi Heine ac Omar Khayyam. Er nad yw'r cerddi eu hunain o'r safon uchaf efallai, yn rhannol oherwydd y rhamantiaeth ordeimladol a geir ynddynt, roeddent yn boblogaidd yn eu dydd ac yn hwb arall i safonau llenyddol y cyfnod oherwydd cynildeb a mireinder eu mynegiant.
[golygu] Llyfryddiaeth
[golygu] Gwaith John Morris-Jones
- Welsh Orthography (1893)
- Caniadau (1907). Barddoniaeth.
- A Welsh Grammar, Historical and Comparative (Rhydychen, 1913)
- Taliesin (1918). Cyfrol XXVIII o'r Cymmrodor wedi'i neilltuo yn gyfangwbl i astudiaeth Morris-Jones.
- Cerdd Dafod, sef Celfyddyd Barddoniaeth Gymraeg (1925)
- Orgraff yr Iaith Gymraeg (1928)
- Welsh Syntax (1931)
[golygu] Ymdriniaethau
- Bedwyr Lewis Jones, Syr John Morris-Jones, yn Bedwyr Lewis Jones (golygydd) Gwŷr Môn (1979).
- Thomas Parry, Syr John Morris-Jones (1958)