John Williams (casglwr llawysgrifau)
Oddi ar Wicipedia
- Gweler hefyd John Williams (tudalen gwahaniaethu).
Casglwr llawysgrifau Cymreig ac un o sylfeinwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru oedd Syr John Williams (1840, Gwynfe, Sir Gaerfyrddin - 1926).
Brodor o Sir Gaerfyrddin oedd Syr John. Ar ôl gyrfa fel llawfeddyg yn Abertawe ac yng Ngholeg Prifysgol Llundain a chael ei urddo'n farchog yn 1894 am ei wasanaeth i lawfeddygaeth, dychwelodd i'w sir enedigol yn 1903 i fyw yn Llansteffan.
Trwy gydol ei oes bu'n casglwr llawysgrifau brwd. Roedd ei gasgliad, a seiliwyd ar y casgliad cynnar a adwaenir fel Llawysgrifau Llansteffan, yn cynnwys llawysgrifau ychwanegol a gasglwyd gan hynafiaethwyr fel Gwallter Mechain a Syr Thomas Phillipps, a rhai o lawysgrifau'r bardd Lewis Morris, ac eraill. Yn ogystal, prynodd Lawysgrifau Peniarth yn 1908. Bu ganddo felly un o'r casgliadau gorau o lawysgrifau Cymraeg a luniwyd erioed yn ei feddiant.
Pan gafwyd cynllun i sefydlu llyfrgell genedlaethol addawodd Syr John y byddai'n cyflwyno ei gasgliad gwerthfawr iddi ar yr amod ei bod yn cael ei lleoli yn Aberystwyth, ac felly y bu. Diolch i'r penderfyniad hwnnw arosodd trysorau fel Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Taliesin a nifer o lawysgrifau hynafol eraill yng Nghymru i'r cenedlaethau a ddêl.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Ruth Evans, Syr John Williams (Cyfres Gŵyl Ddewi, Caerdydd, 1952)