Mérida (Sbaen)
Oddi ar Wicipedia
Mérida yw prifddinas cymuned ymreolaethol Extremadura yn ne-orllewin Sbaen. Gyda phoblogaeth o 53,915 yn 2006, hi yw'r drydedd dinas yn Extremadura o ran poblogaeth, ar ôl Badajoz a Cáceres. Saif ar Afon Guadiana ac Afon Albarregas, 217 medr uwch lefel y môr.
Sefydlwyd y ddinas gan y Rhufeiniaid fel Emérita Augusta, ar gyfer milwyr wedi ymddeol o'r llengoedd Legio V Alaudae a Legio X Gemina. Mae llawer o olion Rhufeinig i'w gweld yn y ddinas, ac yn 1993 cyhoeddwyd hi yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO. Yn ddiweddarch, gwnaeth y Fisigothiaid hi yn brifddinas eu teyrnas yn Sbaen yn y 6ed a'r 7fed ganrif. Mae gweddillion Emérita Augusta yn Safle Treftadaeth y Byd.