Cookie Policy Terms and Conditions Mathau Goch - Wicipedia

Mathau Goch

Oddi ar Wicipedia

Un o filwyr enwocaf Cymru yn y 15fed ganrif oedd Mathau Goch neu Mathew Gough (1386 - 6 Gorffennaf, 1450). Chwaraeodd ran flaenllaw yn rhan olaf y Rhyfel Can Mlynedd yn Ffrainc. Dathlwyd ei wrhydri gan feirdd Cymru, yn cynnwys Lewys Glyn Cothi, Guto'r Glyn ac Ieuan Deulwyn.

Ganed Mathau yn 1386 yn fab i Owain Goch (neu Gough), beili Hanmer yng nghantref Maelor, nyffryn Dyfrdwy (Sir y Fflint ar y pryd, Wrecsam heddiw). Roedd ei fam yn ferch i David Hanmer. Ychydig a wyddys am ei hanes cynnar. Rywbryd tua 1420, efallai, aeth drosodd i Ffrainc fel milwr yng ngwasanaeth John Talbot (Iarll Amwythig yn nes ymlaen). Dyma gyfnod y Deddfau Penyd ar y Cymry, a basiwyd yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr, a'r unig ffordd i ddianc rhag eu cyfyngiadau i nifer o Gymry ifainc oedd trwy fynd yn filwr hur yn rhyfeloedd Ffrainc.

Daeth Mathau i amlygrwydd ym mrwydrau Cravant (1423) a Verneuil (1424) a chafodd ei hun yn gapten ar nifer sylweddol o farchogion a milwyr traed. Bu'n gapten ar dref gaerog Laval yn 1428. Ildiodd Beaugency i luoedd Jeanne d'Arc yn 1429, ar ôl gwarchae gan lu sylweddol mwy. Bu capten ar ôl hynny ar sawl garsiwn arall, yn cynnwys Le Mans a Bayeux yn Normandi. Cafodd Mathau ei ddal gan y Ffrancod yn 1432 a cheir cywyddau gan y beirdd, yn galw am godi'r arian i dalu ei ransom, yr hyn a godwyd yn fuan. Dyma ran agoriadol cywydd i Fathau gan Guto'r Glyn:

Pan sonier i'n amser ni
Am undyn yn Normandi,
Mathau Goch, fab maeth y gwin,
Biau'r gair yn bwrw gwerin [h.y. milwyr].[1]

Fel milwr proffesiynol eraill ei gyfnod, roedd yn barod i newid ochr. Ar ôl Cytundeb Tours (1445) cafwyd cadoediad rhwng Coron Lloegr a Ffrainc, a threuliodd Mathau gyfnod yn gwasanaethu brenin Ffrainc gan arwain catrawd i ymladd yn Alsace a Lorraine yn erbyn y Swisiaid. Daeth y Ffrancod i'w alw yn Mattagau ac i edmygu ei ddewrder.

Yn 1450 bu'n bresennol ym mrwydr trychinebus Formigny. Roedd dyddiau grym Lloegr yn Ffrainc bron ar ben. Syrthiodd nifer o filwyr y Saeson, o sawl gwlad, yn y frwydr. Llwyddodd Mathau a 1500 o farchogion i dorri trwy rengoedd y Ffrancod a dianc, ond daliwyd ei gyfaill William Herbert ac eraill. Ar 16 Mai, 1450, bu rhaid i Mathau ildio Bayeux. Cafodd ef a'i wŷr, ynghyd â channoedd o ferched a phlant, ganiatâd gan y Ffrancod i ymadael, ond heb eu harfau.

Daeth i Lundain ar awr argyfyngus yn hanes Lloegr. Gyda'r wlad honno a Chymru yn cael ei rhwygo gan Rhyfeloedd y Rhosynnau, cododd Jack Cade i arwain gwŷr Caint mewn gwrthryfel poblogaidd yn erbyn y Goron. Ymsododd 20,000 o wŷr Caint ar Lundain. Lladdwyd Mathau ar noson y 5/6ed o Orffennaf yn amddiffyn Pont Llundain. Mawr fu'r galar ar ei ôl yng Nghymru. Yn ôl y William o Gaerwrangon, mewn cerdd yn yr iaith Ladin:

Morte Matthei Goghe
Cambria clamitavit, Oghe!
('Ar farwolaeth Mathew Goch, / Yn ei galar, criai Cymru "Och!"')[2]

[golygu] Cyfeiriadau

  1. Ifor Williams (gol.), Gwaith Guto'r Glyn (Caerdydd, 1939), tud. 8.
  2. H. T. Evans, op. cit..

[golygu] Llyfryddiaeth

  • H. T. Evans, 'Wales and the French Wars - Mathew Gough', Wales and the Wars of the Roses (Llundain, 1915; arg. newydd 1998).
Static Wikipedia 2008 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -

Static Wikipedia 2007 (no images)

Static Wikipedia 2006 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu