Meilyr ap Gwalchmai
Oddi ar Wicipedia
Bardd Cymraeg y cysylltir ef a'i gyndeidiau â Threwalchmai ym Môn oedd Meilyr ap Gwalchmai (fl. ail hanner y 12fed ganrif).
Roedd yn fab i Walchmai ap Meilyr, ac felly'n wŷr i Feilyr Brydydd, ac yn frawd i Einion ap Gwalchmai, yn ôl pob tebyg, a hefyd i'r bardd Elidir Sais, efallai.
Dim ond pedair o'i gerddi sydd wedi goroesi, ill pedair yn awdlau i Dduw.
Cadwyd yr pedair awdl yn Llyfr Coch Hergest a cheir rhan o un ohonynt yn Llawysgrif Hendregadredd yn ogystal.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Bedwyr Lewis Jones (gol.), Gwŷr Môn (Y Bala, 1979). Erthygl gan Tomos Roberts.
- J.E. Caerwyn Williams (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994)
Beirdd y Tywysogion | |
---|---|
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Philyp Brydydd | Seisyll Bryffwrch |