Cookie Policy Terms and Conditions Dafydd Benfras - Wicipedia

Dafydd Benfras

Oddi ar Wicipedia

Dafydd Benfras (cyn 1195? - tua 1258) oedd prif fardd llys Gwynedd rhwng dechrau'r 1220au a diwedd y 1250au, sef cyfnod ail hanner teyrnasiad Llywelyn Fawr, teyrnasiad ei fab Dafydd, a blynyddoedd cynnar teyrnasiad ei ŵyr, Llywelyn ap Gruffudd. Ym marn Saunders Lewis, "am ganrifoedd safai dau enw goruwch pob enw arall o blith prydyddion y tywysogion, sef Cynddelw yn y ddeuddegfed ganrif a Dafydd Benfras yn y drydedd ar ddeg."[1]

Taflen Cynnwys

[golygu] Teulu a gyrfa

Yn ôl tystiolaeth marwnad iddo gan ei gyd-fardd Bleddyn Fardd, mae'n bosibl fod Dafydd Benfras yn fab i'r bardd Llywarch ap Llywelyn ("Prydydd y Moch"), ond ceir tystiolaeth wahanol yn yr achau lle ceir dwy ach wrthgyferbyniol. Credir fod yr ach fwyaf credadwy, gyda thystiolaeth ychwanegol o gofnodion diweddarach, yn profi fod Dafydd yn fab i Ddafydd Gwys/Gwas Sanffraid a cheir tiroedd gwely (tir teuluol etifeddol) yn dwyn ei enw yng nghwmwd Talybolion, Môn, mewn dogfen ddydiedig 1352. Gorwedd y gwely ar dir a fu'n rhan o un o faenorau tywysogion Aberffraw. Ymhlith disgynyddion Dafydd Benfras (o dderbyn yr ach hon), ceir y beirdd Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd (yn orwr iddo) a Llywelyn Fychan ap Llywelyn (yn orwr neu ŵyr).

Ymddengys felly fod Dafydd Benfras, fel Meilyr Brydydd ac eraill, yn perthyn i deulu o feirdd. Yn ogystal mae hi bron yn sicr ei fod yn athro barddol hefyd a bod Bleddyn Fardd i'w gyfrif yn un o'i ddisgyblion. Canodd Bleddyn farwnad nodedig i'w athro ar ffurf cyfres o englynion.

Fel rhai eraill o Feirdd y Tywysogion, mae tystiolaeth ei waith a marwnad Bleddyn Fardd iddo yn dangos fod Dafydd yn fardd-ryfelwr a ymladdai ochr yn ochr â'r tywysogion. Cyfeiria at ei hun fel pencerdd yn ei waith, a gallwn fod yn sicr fod ganddo le yn llys y tywysogion fel bardd ac, yn ôl pob tebyg, fel swyddog o ryw fath.

[golygu] Gwaith

Diau bod cyfran mawr o waith Dafydd Benfras ar goll, ond erys 12 cerdd (804 llinell) sydd ymhlith y gorau o gerddi'r cyfnod. Yn ôl tystiolaeth y cerddi gan Dafydd sydd wedi goroesi, gwelir fod ei noddwyr yn cynnwys Llywelyn Fawr, Gruffudd ap Llywelyn Fawr, Dafydd ap Llywelyn a Llywelyn ap Gruffudd, yn ogystal ag un o'r swyddogion llys pwysicaf, Gruffudd ab Ednyfed, mab y distain Ednyfed Fychan. Yn ogystal â bod yn gampweithiau barddol, mae'r cerddi mawl a marwnadau hyn yn ffynhonnell bwysig ar gyfer hanes y cyfnod, am y ceir ynddynt nifer o gyfeiriadau at ddigwyddiadau fel cyrhcoedd a brwydrau.

Nodwedd arall ar y cerddi yw'r elfen wladgarol sy'n ymylu ar yr hyn a elwir yn genedlaetholdeb heddiw. Mewn awdl o foliant i Lywelyn Fawr, er enghraifft, cyfeirir at y tywysog fel 'brenin Cymru' ac mae'n ei annog i gipio cymaint o dir â phosibl o ddwylo'r gelyn:

'Cymer a fynnych, Cymru—bendefig,
Arbennig wledig a wladychy.'[2]

[golygu] Cyfeiriadau

  1. Saunders Lewis, Braslun o Hanes Llenyddiaeth Gymraeg (Caerdydd, 1932; adargraffiad, 1986), tud. 15.
  2. N. G. Costigan (gol.), op. cit., 26:33-34. Diweddariad: Cymer a fynnych, bendefig Cymru, / Y rheolwr pennaf sy'n teyrnasu

[golygu] Llyfryddiaeth

  • N. G. Costigan (gol.), 'Gwaith Dafydd Benfras', yn Gwaith Dafydd Benfras ac eraill o feirdd hanner cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1995). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion', cyfrol VI.
  • Alan Llwyd (gol.), Llywelyn y Beirdd (Cyhoeddiadau Barddas, 1982). Cyfrol sy'n cynnwys testun dwy gerdd gan Dafydd Benfras i Lywelyn ap Gruffudd.

Beirdd y Tywysogion Y Ddraig Goch
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Philyp Brydydd | Seisyll Bryffwrch
Ieithoedd eraill
Static Wikipedia 2008 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -

Static Wikipedia 2007 (no images)

Static Wikipedia 2006 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu