Madog ap Gwallter
Oddi ar Wicipedia
Bardd a brawd crefyddol oedd Madog ap Gwallter (fl. ail hanner y 13eg ganrif?). Roedd yn frodor o Lanfihangel Glyn Myfyr (sir Conwy heddiw) yn ôl pob tebyg, er nad oes sicrwydd am hynny.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Y bardd
Ni wyddys llawer amdano ar wahân i'r hyn y gellir casglu oddi wrth ei waith. Cofnododd John Davies o Fallwyd ei enw fel y brawd Fadog ap Gwallter mewn nodyn ganddo yn Llyfr Coch Hergest ac mewn llawysgrif arall cofnoda'r dyddiad fl. A.D. 1250. Ar sail hyn a natur ei waith mae lle i gredu ei fod yn frawd crefyddol ac efallai'n un o'r Brodyr Llwydion. Mae'n amlwg ei fod yn hyddysg yn y Beibl yn ogystal â bod yn fardd hyfforddedig.
Mae'n bosibl mai Madog yw awdur cerdd Ladin hir sy'n dathlu dawn filwrol y Brythoniaid (sef y Cymry) a'u buddugoliaethau dros y Saeson. Mae'r gerdd wladgarol hon i'w cael mewn llawysgrif (Caerdydd 2.611) sy'n dyddio o ddiwedd y 13eg ganrif neu ddechrau'r 14eg ganrif. Cofnodir yr awdur fel Frater Walensis madocus edeirnianensis ("y brawd o Gymro Madog o Edeirnion").
[golygu] Ei waith
Cedwir dwy awdl ac un gadwyn englynion o waith Madog, ond gellir bod yn sicr ei fod wedi cyfansoddi llawer mwy. Mae'r awdl gyntaf yn adrodd geni'r Iesu ac yn adnabyddus weithiau dan enw'r llinell agoriadol 'Mab a'n rhodded' neu fel 'Geni Crist'. Mae'r ail yn gerdd ddramatig sy'n ymbil ar Dduw i achub enaid y bardd a'r drydedd yn ymwneud â Sant Fihangel a'i frwydr a'r cythraul.
[golygu] Llawysgrifau
Cedwir testun dwy gerdd yn Llyfr Coch Hergest a'r cyfan yn llawysgrif NLW 4973B (yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru).
[golygu] Llyfryddiaeth
Golygir gwaith y bardd yn:
- Rhian M. Andrews (gol.), 'Gwaith Madog ap Gwallter', yn Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg (Caerdydd, 1996). Cyfres Beirdd y Tywysogion.
Ceir testun cyfleus mewn orgraff ddiweddar o'r gerdd 'Geni Crist' yn,
- Thomas Parry (gol.), Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1962; sawl argraffiad er hynny)
Beirdd y Tywysogion | |
---|---|
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Philyp Brydydd | Seisyll Bryffwrch |