Mynydd Parys
Oddi ar Wicipedia
Mae Mynydd Parys yn fryn 147 m (482 troedfedd) o uchder, ychydig i'r de o Amlwch yng ngogledd-ddwyrain Ynys Môn. Yn ail hanner y 18fed ganrif roedd y diwydiant copr yma y mwyaf yn y byd.
Darganfuwyd olion mwyngloddio copr yma yn Oes yr Efydd, a chredir fod y Rhufeiniaid hefyd wedi bod yn mwyngloddio yma. Yn 1764 rhoddodd y tirfeddianwyr, teulu Bayly, lês o 21 mlynedd i Charles Roe o Macclesfield i chwilio am gopr. Ar 2 Mawrth 1768 darganfu un o'r mwynwyr, Rowland Pugh, haen fawr o gopr. Erbyn y 1780au Mynydd Parys oedd yn cynhyrchu'r mwyafrif o gopr y byd. Erbyn 1778 roedd y cwmni yn cael ei redeg gan Thomas Williams, Llanidan, a ddaeth yn un o ddiwydianwyr mwyaf ei gyfnod.
Yn y blynyddoedd cynnar, roedd y copr yn cael ei weithio oddi ar yr wyneb, ond yn ddiweddarach o siafftiau. Roedd y darnau o graig yn cynnwys y copr wedyn yn cael eu malu'n ddarnau llai â morthwyl gan ferched, y "Copr Ladis", cyn cael ei yrru o borthladd Amlwch i borthladd Abertawe i'w smeltio, neu weithiau i Swydd Gaerhirfryn. Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif roedd poblogaeth Amlwch wedi cynyddu i tua 10,000, gan ei gwneud yr ail dref yng Nghymru ar ôl Merthyr Tudful. Estynwyd yr harbwr gwreiddiol i wneud lle am longau mwy ar gyfer y fasnach cludo mwyn copr.
Dirywiodd y diwydiant copr tua chanol y 1850au. a chaeodd y gwaith copr yn nechrau'r 20fed ganrif. Mae rhan orllewinol y mynydd yn eiddo i Anglesey Mining PLC, sy'n bwriadu ail-ddechrau mwyngloddio yma.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Rowlands, John, Copper mountain (Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn, 1966)