Amlwch
Oddi ar Wicipedia
Amlwch Ynys Môn |
|
Mae Amlwch yn dref fach yng ngogledd-ddwyrain Môn, ar lôn yr A5025 tua 15 milltir i'r gogledd o Borthaethwy, hanner ffordd rhwng Cemaes a Moelfre. Tref ar lan y môr yw hi, heb draeth ond gyda chlogwynni arfordirol trawiadol. Mae twristiaeth yn elfen bwysig yn yr economi leol. Ar un adeg roedd yn borthladd eithaf prysur gyda llongau yn hwylio oddi yno i Ynys Manaw a Lerpwl. Mae nifer o'r tai yn dyddio i'r 19eg ganrif ac yn ychwanegu at awyrgylch y dref.
Yr Arwydd yw papur bro Benllech a gweddill cylch Mynydd Bodafon.
[golygu] Hanes
Tyfodd Amlwch yn gyflym yn y 18fed ganrif oherwydd y cloddio copr ar Fynydd Parys, y fwyaf o'i fath yn y byd ar un adeg. Erbyn diwedd y ganrif honno roedd gan Amlwch poblogaeth o tua 10,000 gan ei gwneud yr ail dref yng Nghymru ar ôl Merthyr Tudful. Dyna pryd yr estynwyd yr harbwr gwreiddiol i wneud lle am longau mwy ar gyfer y fasnach cludo mwyn copr.
Dirywiodd y diwydiant copr lleol ar ganol y 1850au ond parhaodd Amlwch i fod yn ganolfan bwysig i'r diwydiant adeiladu ac atgyweirio llongau a gwaith arall cysylltiedig â'r môr.
Yn 1953 agorwyd gwaith cemegol i dynnu bromin o ddŵr môr ond cafodd ei gau yn 2004. Mae cau atomfa Wylfa, gerllaw, yn debyg o gael effaith andwyol ar yr economi lleol hefyd.
[golygu] Atyniadau yn y cylch
- Mynydd Parys - 'Y Mynydd Copr'
- Porth Llechog - bae deniadol tua milltir a hanner i'r gogledd o Amlwch
[golygu] Cysylltiadau allanol
- Fforwm gymunedol Amlwch (Cymraeg)
- (Saesneg) Gwefan cymuned
- (Saesneg) Cronfeydd data Amlwch hanesyddol
Trefi a phentrefi Môn |
Aberffraw | Amlwch | Benllech | Biwmares | Bodedern | Bodewryd | Bodffordd | Bryngwran | Brynrefail | Brynsiencyn | Caergeiliog | Caergybi | Carreglefn | Cemaes | Cerrigceinwen | Dwyran | Y Fali | Gaerwen | Gwalchmai | Heneglwys | Llanallgo | Llanbabo | Llanbedrgoch | Llandegfan | Llandyfrydog | Llanddaniel Fab | Llanddeusant | Llanddona | Llanddyfnan | Llaneilian | Llanfachreth | Llanfaelog | Llanfaethlu | Llanfairpwllgwyngyll | Llanfair-yn-neubwll | Llanfair-yng-Nghornwy | Llan-faes | Llanfechell | Llangadwaladr | Llangaffo | Llangefni | Llangoed | Llangristiolus | Llaniestyn | Llannerch-y-medd | Llanrhuddlad | Llansadwrn | Llanynghenedl | Malltraeth | Moelfre | Niwbwrch | Penmynydd | Pentraeth | Pentre Berw | Penysarn | Pontrhydybont | Porthaethwy | Rhosneigr | Rhosybol | Rhydwyn | Trearddur | Trefor | Tregele |