Seán T. O'Kelly
Oddi ar Wicipedia
Sean Thomas O'Kelly (Gwyddeleg: Seán Tomás Ó Ceallaigh) (25 Awst 1882 - 23 Tachwedd 1966) oedd ail Arlywydd Gweriniaeth Iwerddon (Gwyddeleg: Uachtarán na hÉireann), rhwng 25 Mehefin 1945 a 24 Mehefin 1959. Fe'i ganed yn Nulyn. O'Kelly oedd un o sylfeinwyr Fianna Fáil. Roedd yn aelod o'r Dáil Éireann (senedd Gweriniaeth Iwerddon) o 1918 hyd ei ethol yn arlywydd. Gwasanethai fel Gweinidog Llywodraeth Leol (1932–1939) a Gweinidog Cyllid (1939–1945). Roedd yn Is-Arlywydd y Cyngor Gweithredol o 1932 hyd 1937 a'r Tánaiste o 1937 hyd 1945.
Dirprwy Prif Weinidogion Iwerddon |
Seán T. O'Kelly | Sean Lemass (3 gwaith)| William Norton (2 waith)| Seán MacEntee | |