The Lord of the Rings
Oddi ar Wicipedia
Nofel ffantasi arwrol a ysgrifennwyd gan yr academydd Seisnig J.R.R. Tolkien yw The Lord of the Rings ("Yr Arglwydd y Modrwyau"). Dechreuodd y stori fel canlyniad i lyfr ffantasi blaenorol Tolkien, The Hobbit (Yr Hobit yn Gymraeg[1]), ond datblygodd i fod yn stori llawer mwy. Ysgrifennwyd y nofel fesul cam rhwng 1937 a 1949, a llawer ohoni yn cael ei greu yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Er i Tolkien fwriadu cynhyrchu gwaith un gyfrol, cyhoeddwyd y llyfr yn wreiddiol mewn tair cyfrol ym 1954 a 1955, ac yn y ffurf tair cyfrol hon yr adwaenir yn boblogaidd. Ers hynny, cafodd y nofel ei hailargraffu nifer o weithiau, a'i chyfieithu i 38 o ieithoedd o'r leiaf, gan ddod yn un o'r gweithiau mwyaf poblogaidd yn llenyddiaeth yr 20fed ganrif. Hyd yn hyn, er hynny, ni chyhoeddwyd cyfieithiad Cymraeg.
Mae stori Lord of the Rings yn digwydd mewn amser a lle dychmygol, sef Trydedd Oes Canolddaear (h.y. "the Third Age of Middle-earth"). Mae'r dirwedd naturiol yn debyg i'n daear ni, yn hytrach na phlaned arall. Dywedodd Tolkien ei hun mai ein daear ni tua 6000 o flynyddoedd yn ôl yw'r lleoliad, er bod y gyfatebiaeth ddaearyddol a hanesyddol â daearyddiaeth a hanes y byd go iawn yn denau yn unig. Poblogir tiroedd Canolddaear gan Ddynion a hilion dynol eraill: Hobitiaid[1], Ellyllon, Corachod ac Orchod ("Orcs"). Mae'r stori yn canoli ar y Fodrwy Grym a wnaed gan yr Arglwydd Tywyll Sauron. Yn cychwyn o ddechreuadau tawel yn y Shire, mae'r stori yn crwydro dros Ganolddaear ac yn dilyn Rhyfel y Fodrwy trwy lygaid ei gymeriadau, yn arbennig y cymeriad canolog Frodo Baggins. Dilynir y prif stori gan chwe atodiad sy'n darparu toreth o ddeunydd cefndir hanesyddol ac ieithyddol.
Ynghyd ag ysgrifeniadau eraill Tolkien, dadansoddwyd Lord of the Rings yn helaeth yn nhermau ei wreiddiau a themâu llenyddol. Er bod y gwaith ei hun yn un pwysig, y symudiad olaf yn unig o chwedloniaeth yr oedd Tolkien wedi gweithio arni ers 1917 yw'r stori. Mae dylanwadau ar y gwaith blaenorol hwn, ac ar stori Lord of the Rings, yn cynnwys ieitheg, mytholeg, diwydiannaeth a chrefydd, yn ogystal â gweithiau ffantasi blaenorol a phrofiadau Tolkien yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ystyrir hefyd bod Lord of the Rings, yn ei dro, wedi cael effaith o bwys ar ffantasi modern.
Mae poblogrwydd aruthrol a pharhaol Lord of the Rings wedi arwain at nifer o gyfeiriadau mewn diwylliant poblogaidd, sefydliad llawer o gymdeithasau gan gefnogwyr gweithiau Tolkien, a chyhoeddiad llawer o lyfrau am Tolkien a'i weithiau. Mae Lord of the Rings wedi ysbrydoli (ac yn dal i ysbrydoli) gweithiau celfyddyd, cerddoriaeth, ffilmiau a theledu, gemau fideo a llenyddiaeth ddilynol. Gwnaethpwyd addasiadau o Lord of the Rings ar gyfer radio, theatr a ffilm. Achosodd rhyddhad y gyfres lwyddiannus dros ben o dair ffilm Lord of the Rings rhwng 2001 a 2003 ymchwydd newydd o ddiddordeb yn Lord of the Rings a gweithiau eraill Tolkien.
Nododd Tolkien fod llawr o'r enwau yn y llyfr wedi eu seilio ar yr iaith Gymraeg.