Thomas Evan Nicholas
Oddi ar Wicipedia
Bardd, pregethwr a gwleidydd oedd Thomas Evan Nicholas, hefyd Niclas y Glais (1879 - 1971). Fe'i ganwyd yn Llanfyrnach, Sir Benfro.
Cafodd ei addysg yn Academi'r Gwynfryn, Rhydaman. Ymhlith ei athrawon oedd Watcyn Wyn a Gwili (John Jenkins). Treuliodd ddeng mlynedd yn gweinidogi ym mhentref glofaol Y Glais, gorllewin Morgannwg, lle daeth i nabod y gweithwyr a'u bywyd. Cafodd y brofiad effaith angerddol arno a dechreuodd barddoni dan yr enw barddol 'Niclas y Glais'. Daeth yn sosialydd brwd a chefnogai'r Blaid Lafur Anniybynnol newydd. Roedd yn gyfaill i Keir Hardie ac edmygai waith a syniadau'r bardd R. J. Derfel a'r gwleidydd Robert Owen. Roedd yn heddychwr a siaradai yn gyhoeddus yn erbyn erchyllterau'r Rhyfel Byd Cyntaf, gan ennyn dig yr awdurdodau.
Cafodd ei arestio a'i garcharu yn 1940 pan ddaeth yr heddlu ar draws swastikas bach papur coch yn ei gartref. Does dim dwywaith nad oedd Niclas yn rebel ac yn pregethu yn erbyn y drefn ond daeth yn glir pan ryddhawyd dogfennau gan yr Archif Brydeinig yn Kew nad oedd dim sail i gyhuddiadau'r heddlu. Roedd yn amlwg fod y Prif Gwnstabl a oedd wedi gorchymun arestio Niclas yn gwbwl ragfarnllyd, pan ddaeth gerbron y Pwyllgor Apel. Roedd y baneri bach gyda'r swastikas wedi dod gyda map o'r rhyfel am ddim yn y papur dyddiol y Daily Telegraph.
Treuliodd ei amser yn y carchar yn Abertawe a Brixton yn barddoni gan ysgrifennu'r cerddi ar bapur tŷ bach y carchar; fe'u cyhoeddywd yn y gyfrol Canu'r Carchar (1942) ac mae'r gwreiddiol i'w cael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
Roedd yn fardd toreithiog iawn. Prif themau ei gerddi yw anghyfiawnder, y frwydr rhwng y dosbarth gweithiol a grymoedd cyfalafiaeth, a heddychaeth.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Salmau'r Werin (1909)
- Cerddi Gwerin (1912)
- Cerddi Rhyddid (1914)
- Dros Eich Gwlad (1920)
- Terfysgoedd Daear (1939)
- Llygad y Drws (1940)
- Canu'r Carchar (1942)
- Y Dyn a'r Gaib (1944)
- Dryllio'r Delwau (1941)
- Rwy'n Gweld o Bell (1963)