Thomas Gwynn Jones
Oddi ar Wicipedia
Newyddiadurwr, bardd, ysgolhaig a nofelydd oedd T. Gwynn Jones, enw llawn Thomas Gwyn Jones (10 Hydref, 1871 - 7 Mawrth 1949). Roedd T. Gwynn yn llenor amryddawn a wnaeth gyfraniad pwysig iawn i lenyddiaeth Gymraeg, ysgolheictod Cymreig ac astudiaethau llên gwerin yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif. Yr oedd hefyd yn gyfieithydd medrus o'r Almaeneg, Groeg, Gwyddeleg a Saesneg. Roedd yn frodor o Fetws yn Rhos yn yr hen Sir Ddinbych (sir Conwy heddiw).
Taflen Cynnwys |
[golygu] Ei fywyd
Cafodd T. Gwynn Jones ei addysg gynnar yn Ninbych ac Abergele. Daeth yn is-olygydd Baner ac Amserau Cymru (Y Faner) yn 1890. Ysgrifennodd gofiant ardderchog i'r cyhoeddwr Rhyddfrydol Thomas Gee sy'n dryll i'w oes yn ogystal â'i waith. Aeth i weithio i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ar ôl blynyddoedd o newyddiadura, ac wedyn yn ddarlithydd yn yr adran Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Yn 1919 daeth yn athro llenyddiaeth Gymraeg yn y coleg hwnnw.
Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1902 am ei awdl Ymadawiad Arthur.
Roedd yn wrthwynebydd cadarn yn erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cerddodd allan o Gapel Tabernacl, Aberystwyth pan weddïodd y gweinidog am fuddugoliaeth i Prydain yn y rhyfel.
[golygu] Llyfryddiaeth ddethol
[golygu] Llyfrau T. Gwynn Jones
- Astudiaethau (1936). Ysgrifau.
- (cyf.), Awen y Gwyddyl (1922). Barddoniaeth Wyddeleg mewn cyfieithiad.
- Bardism and Romance (1914). Astudiaeth.
- Beirniadaeth a Myfyrdod (1935). Ysgrifau.
- (cyf.), Blodau o Hen Ardd (1927). Epigramau Groeg mewn cyfieithiad.
- Brethyn Cartref (1913). Straeon.
- Brithgofion (1944). Darn o hunangofiant.
- Caniadau (1934). Cerddi.
- Cofiant Thomas Gee (1913). Un o'r cofiannau mwyaf trwyadl a welwyd yn y Gymraeg, ar fywyd a chyfnod y cyhoeddwr Thomas Gee.
- Cymeriadau (1933). Ysgrifau.
- Y Dwymyn (1944). Cerddi.
- Dyddgwaith (1937). Ysgrifau.
- Eglwys y Dyn Tlawd (1892)
- Emrys ap Iwan (1912). Cofiant Emrys ap Iwan.
- (cyf.), Faust gan Goethe (1922). Cyfieithiad o waith mawr Goethe.
- Gwedi Brad a Gofid (1898). Nofel.
- (gol.), Gwaith Tudur Aled (1926). Golygiad mewn dwy gyfrol o gerddi Tudur Aled.
- Gwlad y Gân a cherddi eraill (1902). Cerddi.
- John Homer (1923). Nofel.
- Lona (1923). Nofel.
- Llenyddiaeth y Cymry (1915). Hanes llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol.
- (cyf.) Macbeth gan William Shakespeare (1942). Cyfieithiad mydryddol grymus o ddrama enwog Shakespeare.
- Rhieingerddi'r Gogynfeirdd (1915). Astudiaeth o waith y Gogynfeirdd.
- (cyf.), Visions of the Sleeping Bard (1940). Cyfieithiad o Gweledigaethau'r Bardd Cwsg gan Ellis Wynne.
- Welsh Folklore and Folk-custom (1930). Astudiaeth arloesol o lên gwerin Cymru.
[golygu] Beirniadaeth ac Astudiaethau
- Gwynn ap Gwilym (gol.), Thomas Gwynn Jones, "Cyfres y Meistri" (Caerdydd, 1982)
- David Jenkins, Cofiant Thomas Gwynn Jones (Dinbych, 1973)
- Derec Llwyd Morgan, Barddoniaeth T. Gwynn Jones (1972)
- D. Hywel E. Roberts, Llyfryddiaeth T. Gwynn Jones (Caerdydd, 1981)
- "Rhifyn Coffa Thomas Gwynn Jones", Y Llenor (Caerdydd, cyfrol XXVIII, Haf 1949)