Tour de France 1905
Oddi ar Wicipedia
Canlyniad Terfynol | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Tour de France 1905 oedd y trydydd Tour de France, ai gynhalwyd o 9 Gorffennaf i 30 Gorffennaf 1905. Oherwydd y twyllo a fu yn ystod ras y flwyddyn gynt, newidwyd y ras mewn sawl ffordd:
- Byrhawyd y cymalau i gadarnhau nad oedd y cystadlwyr yn reidio drwy'r nôs. Ymestynodd hyn y ras i 11 cymal, bron i ddwbl y nifer o'r flwyddyn gynt.
- Penderfynwyd yr enillydd ar sail system bwyntiau yn hytrach nac amser.
Roedd gwrthwynebwyr ymysg y gwylwyr er hyn. Dioddefodd bron pob reidiwr dwll yn eu teiar oherwydd yr hoelion a gafodd eu harswyll ar draws y ffordd.[1] Roedd y ras yn 2,994 km (1,860 milltir) o hyd yn gyfan, 27.107kilomedr yr awr oedd cyfartaledd cyflymder y reidwyr. Ymaddangosodd y dringiad mawr cyntaf, Ballon d'Alsace, yn y Tour am y tro cyntaf y flwyddyn hon hefyd.
Enillwyd y ras gan y Ffrancwr, Louis Trousselier, a enillod 5 o'r 11 cymal yn ogystal. Profodd René Pottier i fod yn anghuradwy yn y mynyddoedd, ond yn dilyn damwain, ymddeolodd o'r ras yn ystod y drydedd cymal.
[golygu] Cymalau
Cymal | Dyddiad | Llwybr | Hyd (km) | Enillydd | Arweinydd y ras |
---|---|---|---|---|---|
1 | 9 Gorffennaf | Paris - Nancy | 340 | Louis Trousselier | Louis Trousselier |
2 | 10 Gorffennaf | Nancy - Besançon | 299 | Hyppolite Aucouturier | René Pottier |
3 | 13 Gorffennaf | Besançon - Grenoble | 327 | Louis Trousselier | Louis Trousselier |
4 | 16 Gorffennaf | Grenoble - Toulon | 348 | Hyppolite Aucouturier | Louis Trousselier |
5 | 18 Gorffennaf | Toulon - Nîmes | 192 | Louis Trousselier | Louis Trousselier |
6 | 20 Gorffennaf | Nîmes - Toulouse | 307 | Jean-Baptiste Dortignacq | Louis Trousselier |
7 | 22 Gorffennaf | Toulouse - Bordeaux | 268 | Louis Trousselier | Louis Trousselier |
8 | 24 Gorffennaf | Bordeaux - La Rochelle | 257 | Hyppolite Aucouturier | Louis Trousselier |
9 | 26 Gorffennaf | La Rochelle - Rennes | 263 | Louis Trousselier | Louis Trousselier |
10 | 28 Gorffennaf | Rennes - Caen | 167 | Jean-Baptiste Dortignacq | Louis Trousselier |
11 | 30 Gorffennaf | Caen - Paris | 253 | Jean-Baptiste Dortignacq | Louis Trousselier |
[golygu] Ffynonellau
[golygu] Dolenni Allanol
- (Almaeneg) Tour 1905
Crys Melyn |
Crys Werdd |
Crys Dot Polca |
Crys Gwyn |
Gwobr Brwydrol