Tour de France 1903
Oddi ar Wicipedia
Canlyniad Terfynol | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Tour de France 1903 oedd y Tour de France cyntaf erioed, a sefydlwyd a'i noddwyd gan bapur newydd L'Auto.
Ysbrydolwyd y Tour gan lenyddiaeth, yn arbennig gan nofel Tour de France par Deux Enfants, ynddi mae dau fachgen yn teithio ogwmpas ffrainc. Cynnigwyd y syniad o'r ras gan y newyddiadurwr, Géo Lefèvre i'w olygydd, Henri Desgrange, a chafodd ei drafod yng nghafi, Café de Madrid, neu yn ôl rhai Taverne Zimmer (mae'r caffi wedi newid ei henw sawl gwaith), ym Mharis ar 20 Tachwedd 1902, datganwyd y ras yn gyhoeddus y mis Ionawr canlynol. Rhedwyd y ras er mwyn hybu gwerthiant y papur newydd.
Dechreuodd Tour 1903 gyda chymal Montgeron-Villeneuve-Saint-Georges, route de Corbeil ar 1 Gorffennaf, a gorffennodd gyda cymal Vile-d'Avray, restaurant du Père ar 19 Gorffennaf. Dim ond chwe cymal oedd yn y ras i gymharu a tua ugain yn y Tour yn y 21fed ganrif. ROedd y cymalau'n hir, y hiraf oedd rhwng Nantes a Paris - 471 kilomedr, y byrraf oedd rhwng Toulouse a Bordeaux - 268 kilomedr, i gymharu a chymalau Tour de France 2004, a oedd ar gyfertaledd, yn 171 kilomedr yr un. Dechreuodd chwe deg reidiwr ond dim ond 21 orffennodd. Enillodd yr enillydd 3 mil o ffranciau (tua 26,500 Euro yn arian heddiw).
Fel y journal organisateur, Géo Lefèvre oedd llywydd, beirniad a cheidwad amser y ras; Henri Desgrange oedd y directeur-général, er, ni ddilynodd y ras.
NId oedd unrhyw dimau yn y ras, roedd y reidwyr i gyd yn cystadlu yn unigol. Talwyd 10 ffranc gan pob reidiwr er mwyn cael rasio (tua 87.5 euro heddiw gyda chwyddiant yn ôl Geoffrey Wheatcroft).
Roedd y cymalau, ar gyfartaledd, yn 400 kilomedr o hyd, yn aml yn para i'r nôs ac yn cymryd 24 awr iw cyflawni.
- Montgeron: Cymerodd y cymal cyntaf 27 awr a 47 munud iw gyflawni gyda'r reidwyr yn seiclo drwy'r nôs. Maurice Garin enillodd y cymal hwn gyda Emile Pagie yn ail munud yn ddiweddarach a Léon Georget yn drydydd. Ni orffenodd Hippolyte Aucouturier y cymal, ond caniatawyd ef i deithio ar y trên i ddechrau'r ail gymal.
- Cymal 2: Lyon - Marseilles.
- Cymal 3: Dechreuodd ar 8 Gorffennaf o Marseilles - Toulouse. Dim ond 32 o'r 60 reidiwr oedd ar ôl yn y ras erbyn hyn. Enillwyd y cymal gan Eugène Brange, Julien Lootens, Maurice Garin a Louis Pothier.
- Cymal 4:Toulouse - Bordeaux. Roedd hwn yn gymharol fyr, 250 kilomedr, yn y cymal hwn digwyddodd damwain cyntaf y Tour de France pan redodd ci ar draws y ffordd gan achosi i grŵp o 15 ddisgyn. Penderfynnodd Hippolyte Aucouturier i roi'r gorau a cymerodd y trên i Paris.
- Cymal 5: Bordeaux - Nantes.
- Cymal 6: Nantes - Paris.
Enillodd Maurice Garin y ras mewn 94 awr 33 munud ac 14 eiliad, Louis Pothier oedd yn ail 2 awr 49 munud a 21 eiliad tu ôl iddo, Augereau oedd yn drydydd 4 awr 29 munud a 24 eiliad tu ôl i'r arwinydd. Y lanterne rouge (yr olaf i orffen) oedd Arsene Millocheau, a oedd 64 awr, 57 munud ac 8 eiliad tu ôl i Garin.
[golygu] Dolenni Allanol
- Canlyniadau Tour de France 1903
- Canlyniadau Tour de France 1903
- Hanes Tour de France 1903
- Map o lwybr Tour de France 1903
Crys Melyn | Crys Werdd | Crys Dot Polca | Crys Gwyn | Gwobr Brwydrol