Trefilan
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan gwledig yn ne canolbarth Ceredigion yw Trefilan. Mae'n gorwedd ar lan ogleddol afon Aeron tua 7 milltir i'r dwyrain o Aberaeron, ar yr hen ffordd rhwng Llanrhystud i'r gogledd a Llanbedr Pont Steffan i'r de-ddwyrain.
Ger ysgol y pentref ceir safle Castell Trefilan, castell mwnt a beili a godwyd gan dywysogion Deheubarth yn y 1230au.
Tua milltir i'r de o Drefilan ceir safle tybiedig lleiandy Sistersaidd Llanllŷr.