William Edwards
Oddi ar Wicipedia
Gwleidydd a chyfreithiwr oedd William Henry Edwards, neu Will Edwards (6 Ionawr 1938 – 17 Awst 2007). Cafodd ei eni yn Amlwch, Ynys Môn, ac aeth i Ysgol Syr Thomas Jones yn y dref honno ac wedyn fel myfyriwr i Brifysgol Lerpwl. Bu'n gyfreithiwr yn gweithio yn Y Bala, Corwen a Wrecsam.
Safodd yn etholiad cyffredinol 1964 yng Ngorllewin Fflint dros y Blaid Lafur, gan ennill sedd Meirionnydd yn 1966 ac yntau yn 28 oed. Cynyddodd ei fwyafrif yn 1974 ond collodd y sedd i Dafydd Elis Thomas, ymgeisydd Plaid Cymru, yng ngwanwyn 1974.