Corwen
Oddi ar Wicipedia
Corwen Sir Ddinbych |
|
Mae Corwen yn dref fach yng Nyffryn Edeirnion yn ne Sir Ddinbych. Saif ar lôn yr A5 rhwng Betws-y-Coed (23 milltir) a Llangollen (11 milltir). I'r gogledd mae Rhuthun (13 milltir) ac i'r de y mae'r Bala (12 milltir). Mae Afon Dyfrdwy yn rhedeg heibio i'r dref. Yn yr Oesoedd Canol roedd Corwen yn rhan o gwmwd Dinmael. Mae gan y dref gysylltiadau ag Owain Glyndŵr; cymysg fu'r ymateb i'r cerflun o'r arwr a godwyd ar y sgwâr yn ddiweddar.
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nghorwen ym 1919. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Corwen 1919
[golygu] Atyniadau yn y cylch
- Caer Drewyn - bryngaer o Oes yr Haearn ar Fynydd y Gaer a gysylltir ag Owain Gwynedd ac Owain Glyndŵr
- Mwnt Owain Glyndŵr - 3 milltir i'r dwyrain
- Rhug - plasdy'r Wynniaid
Trefi a phentrefi Sir Ddinbych |
Aberchwiler | Betws Gwerful Goch | Bodelwyddan | Bodfari | Bontuchel | Bryn Saith Marchog | Bryneglwys | Cefn Meiriadog | Corwen | Cyffylliog | Cynwyd | Derwen | Dinbych | Diserth | Y Ddwyryd | Efenechtyd | Eryrys | Gallt Melyd | Glyndyfrdwy | Gwyddelwern | Henllan | Llanarmon-yn-Iâl | Llanbedr Dyffryn Clwyd | Llandegla-yn-Iâl | Llandrillo | Llandyrnog | Llanelidan | Llanelwy | Llanfair Dyffryn Clwyd | Llanferres | Llangollen | Llangwyfan | Llangynhafal | Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch | Llanynys | Melin y Wig | Nantglyn | Pandy'r Capel | Prestatyn | Prion | Rhewl | Rhuallt | Rhuddlan | Rhuthun | Y Rhyl | Sodom | Tafarn-y-Gelyn | Trefnant | Tremeirchion |