Pant Glas
Oddi ar Wicipedia
Pentref ydy Pant Glas (weithiau Pantglas) sy'n gorwedd ar yr hen A487 yn Nyffryn Nantlle. Llifa Afon Dwyfach heibio i'r pentref. Hyd adeiladu ffordd osgoi Llanllyfni, roedd llawr iawn o draffic yn teithio tryw'r pentref ac roedd cyfymder ucha o 50 milltir yr awr, gostyngwyd hyn i 40 milltir yr awr yn 2005 gan wneud y pentref yn lle llawer mwy pleserus i fyw.[1]
Mae llwybr beic Lôn Eifion, rhan o Lôn Las Cymru, hefyd yn pasio drwy'r pentref, yn dilyn llwybr hen reilffordd Caernarfon i Afon Wen a gaewyd ym mis Rhagfyr 1964. Mae'r llwybr yn ran o rwydwaith cenedlaethol Sustrans erbyn hyn.
Mynychai rhai o blant y pentref Ysgol Gynradd Garndolbenmaen gerllaw cyn symyd ymlaen i ysgolion uwchradd Eifionydd neu Ddyffryn Nantlle.
Ganwyd Bryn Terfel ym Mhant Glas a magwyd ar fferm Nant Cyll Uchaf.