Brynsiencyn
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Brynsiencyn yn bentref yn ne-orllewin Ynys Môn, ar y ffordd A4080 rhwng Llanfairpwllgwyngyll a Niwbwrch. O ganol y pentref, mae ffordd arall yn arwain i lawr at Afon Menai, lle mae Sw Môr Môn.
Gellir gweld nifer o hynafiaethau diddorol gerllaw'r pentref, yn cynnwys siambr gladdu Bodowyr, Castell Bryn Gwyn a Chaer Lêb. Brodor o Frynsiencyn oedd Robert ab Ifan, bardd ac uchelwr a flodeuodd rhwng 1572 a 1603. Daeth y pentref i amlygrwydd yn nechrau'r 20fed ganrif pan oedd John Williams, Brynsiencyn yn weinidog yno ac yn un o bregethwyr amlycaf Cymru.
Trefi a phentrefi Môn |
Aberffraw | Amlwch | Benllech | Biwmares | Brynsiencyn | Caergybi | Gwalchmai | Y Fali | Llanallgo | Llanbabo | Llanfachreth | Llanfairpwllgwyngyll | Llan-faes | Llangefni | Llangoed | Llangristiolus | Llaniestyn | Llannerch-y-medd | Llansadwrn | Malltraeth | Moelfre | Niwbwrch | Pentraeth | Porthaethwy |