Niwbwrch
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Niwbwrch Ynys Môn |
|

Mae Niwbwrch (Newborough yn Saesneg) yn dref yn ne Ynys Môn. Saif ar lôn yr A4080 rhwng Porthaethwy ac Aberffraw.
[golygu] Yr eglwys
Mae'r eglwys, sy'n gysegredig i Bedr a Phaul, yn hen. Adeilad â chorff hir a chul ydyw, a godwyd yn y 14eg ganrif ar safle hŷn. Mae'r bedyddfaen yn dyddio o'r 12fed ganrif ac o waith Cymreig lleol. Ychwanegwyd porth i'r eglwys yn y 15fed ganrif. Ceir dau feddfaen hynafol yno, un ohonyn nhw gyda cherfwaith blodeuog a'r llall gyda'r arysgrif Hic jacet Dns Mathevs ap Ely arno ('Yma mae'r Arglwydd Mathew ap Eli yn gorffwys').
[golygu] Hanes
Creuwyd y fwrdeistref newydd (ystyr lythrennol 'Niwbwrch') ar ddiwedd y 13eg ganrif ar gyfer y Cymry a orfodwyd i ymadael â Llan-faes gan y Saeson. Cyn hynny roedd treflan fach yno ger Llys Rhosyr, un o brif lysoedd Tywysogion Gwynedd yn Oes y Tywysogion. Rhosyr oedd enw'r cantref hefyd.
Ar ganol y 14eg ganrif ymwelodd Dafydd ap Gwilym â Niwbwrch a chanodd gywydd i foli'r dref a'i drigolion. Dyma'r llinellau agoriadol:
- Hawddamawr, mireinmawr maith,
- Tref Niwbwrch, trefn iawn gobaith,
- A'i glwysdeg deml a'i glasdyr,
- A'i gwin a'i gwerin a'i gwŷr,
- A'i chwrw a'i medd a'i chariad,
- A'i dynion rhwydd a'i da'n rhad.
- (Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym, cerdd 134)
[golygu] Atyniadau
- Llys Rhosyr - un o lysoedd Tywysogion Gwynedd
- Traeth Niwbwrch - gwarchodfa natur
- Ynys Llanddwyn - a gysylltir â'r Santes Dwynwen
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Trefi a phentrefi Môn |
Aberffraw | Amlwch | Benllech | Biwmares | Brynsiencyn | Caergybi | Gwalchmai | Y Fali | Llanallgo | Llanbabo | Llanfachreth | Llanfairpwllgwyngyll | Llan-faes | Llangefni | Llangoed | Llangristiolus | Llaniestyn | Llannerch-y-medd | Llansadwrn | Malltraeth | Moelfre | Niwbwrch | Pentraeth | Porthaethwy |