Benllech
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Benllech Ynys Môn |
|
Tref ar arfordir ddwyreiniol Ynys Môn, ym mhwlyf Llanfair Mathafarn Eithaf yw Benllech. Fe'i lleolir 7 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Borthaethwy ar lôn yr A5025, hanner ffordd rhwng Pentraeth a Moelfre. Mae ar Lwybr Arfordirol Ynys Mon. Mae'n ganolfan gwyliau glan-môr poblogaidd yn yr haf ac mae twristiaeth yn chwarae rhan bwysig yn yr economi lleol. Mae nifer o dai newydd a byngalos yn gymysg â thai hŷn y dref. Mae Traeth Benllech yn lân a diogel. I'r gorllewin ceir meysydd carafanau ar gyfer ymwelwyr.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Y dref heddiw
Celr ysgol gynradd, meddygfa GP, llyfrgell, swyddfa post a nifer o gaffis a siopau bach yn y dref, ynghyd â thair tafarn. Dros y degawdau diwethaf mae nifer o bobl a arferai fynd ar eu gwyliau i Fenllech wedi prynu tai yn y dref ac mewn canlyniad mae hi wedi'i Seisnigeiddio cryn dipyn, yn arbennig mewn cymhariaeth â'r pentrefi bach yn y cylch.
[golygu] Hanes lleol
Ceir dwy siambr gladdu Neolithig hanner milltir i'r gorllewin o Fenllech. Ganwyd y bardd Goronwy Owen yn Rhosfawr, dwy filltir i'r gorllewin o'r dref.
[golygu] Atyniadau eraill
- Traeth Coch - bae llydan agored filltir a hanner i'r de-ddwyrain.
- Dinas - bryngaer dwy filltir i'r gogledd o'r dref, ger Traeth Bychan.
[golygu] Cludiant
Ceir gwasanaethau bws i Amlwch, Porthaethwy a Bangor.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Trefi a phentrefi Môn |
Aberffraw | Amlwch | Benllech | Biwmares | Brynsiencyn | Caergybi | Gwalchmai | Y Fali | Llanallgo | Llanbabo | Llanfachreth | Llanfairpwllgwyngyll | Llan-faes | Llangefni | Llangoed | Llangristiolus | Llaniestyn | Llannerch-y-medd | Llansadwrn | Malltraeth | Moelfre | Niwbwrch | Pentraeth | Porthaethwy |