Ifan IV o Rwsia
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Ifan IV o Rwsia (25 Awst 1530 - 18 Mawrth 1584), oedd rheolwr cyntaf Rwsiaid i gymryd y teitl Tsar. Mae hefyd wedi cael ei alw yn Ifan yr Ofnadwy (Ива́н Гро́зный, Ivan Grozny), ac Ifan Fasilyefits (Ива́н Васи́льевич), mab Vasily III.
Bu farw tad Ifan yn 1533, pan oedd yn dair blwydd oed, a chafodd ei goroni yn tsar ar 16 Ionawr 1547. Roedd ei deyrnasiad cynnar yn amser heddychlon o foderneiddio – sefydlodd byddin barhaol, diwygiodd y côd cyfreithiol, a sefydlodd y Zemsky Sobor, cyngor y bendefigaeth. Gwelwyd y wasg argraffu gyntaf yn Rwsia yn yr amser hon. Agorodd Ifan y Môr Gwyn a phorthladd Archangelsk i fasnachwyr Seisnig gan greu cysylltiadau masnachol newydd. Gorchmynodd adeiladu Eglwys Gadeiriol Sant Basil yn Moscfa ac, yn ôl y chwedl, dallodd y penseiri fel na byddent yn gallu cynllunio adeilad odidocach na'r gadeirlan.
Tywysogion a tsariaid Rwsia |
Tsariaid Rwsia |
Ifan IV | Fyodor I | Boris Godunov | Fyodor II | Ffug Dmitriy I | Vasiliy IV | Mihangel (Mikhail Romanov) | Aleksey | Fyodor III | Ifan V | Pedr I | Catrin I | Pedr II | Anna | Ifan VI | Elisabeth | Pedr III | Catrin II | Pawl I | Alexander I | Niclas I | Alexander II | Alexander III | Niclas II |