Wicipedia:Pigion
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Gweler hefyd: Pigion hŷn
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hedd Wyn
Hedd Wyn oedd enw barddol Ellis Humphrey Evans (1887-1917). Roedd yn dod o Drawsfynydd, Sir Feirionnydd yng Ngogledd Cymru. Roedd yn filwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ef a enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw. Cafodd ei ladd ar faes y gad cyn y cadeirio a dyna pam y gelwir yr Eisteddfod honno yn Eisteddfod y Gadair Ddu, er nad oedd y gadair yn ddu yn gwirionedd. Galwon nhw'r gadair yr enw yma oherwydd rhoddon nhw luain du arni hi.
[golygu] Petroliwm
Tanwydd ffosil yw petroliwm neu olew crai sy'n cael ei echdynnu o'r ddaear mewn gwledydd ar draws y byd, ond yn enwedig yn y dwyrain canol, yr UDA, Rwsia a Feneswela. Mae'n adnodd anadnewyddadwy a defnyddir i wneud petrol, plastig ayyb. Mae petroliwm yn hylif tew brown tywyll fel arfer, sy'n cynnwys cymysgedd cymhleth o hydrocarbonau fflamadwy. Caiff y petroliwm ei buro i roi amryw o ffracsiynau trwy broses o ddistyllu ffracsiynol]].
[golygu] Gwylan
Mae'r wylan yn bwyta pysgod wrth gwrs, ond mae hefyd yn bwyta pob math o gig, wyau adar eraill, hadau a llysiau a hefyd anifeiliaid wedi marw a phob math o fudreddi. Mae'n lladd a bwyta crancod trwy hedfan yn uchel a'u gollwng ar y creigiau fel bod y crancod yn torri'n ddarnau. Yng Nghymru yr ydym yn eu gweld yn dilyn aradr, hyd yn oed filltiroedd i mewn i'r tir mawr, yn casglu mwydon a chynrhon wrth iddynt ddod i'r wyneb.
[golygu] Patagonia
Rhanbarth daearyddol yn Ne America yw Patagonia sy'n ymestyn o Chile ar draws yr Andes i'r Ariannin. Deillia'r enw Patagonia o Batagones, sef enw'r bobl gyntaf i gyrraedd yr ardal rhyw 10,000 o flynyddoedd yn ôl.
[golygu] Plaid Cymru
Wedi'i sefydlu yn 1925, yn bennaf fel mudiad ieithyddol, yn draddodiadol y mae Plaid Cymru wedi bod yn fwyaf cryf yn y Gymru Gymraeg yn y gorllewin a'r gogledd.
Am flynyddoedd lawer gwrthododd y Blaid sefyll mewn etholiadau i Senedd Prydain, ond enillodd ei sedd seneddol gyntaf mewn is-etholiad yn sedd Caerfyrddin ar y 14eg o Orffennaf 1966 pan enillodd Gwynfor Evans, llywydd y blaid ar y pryd. Methodd gadw'r sedd yn etholiad 1970. Collodd o 3 pleidlais yn Etholiad Cyffredinol gwanwyn 1974 ond fe enillodd y sedd yn Etholiad Cyffredinol Hydref 1974. Collodd y sedd wedyn yn 1979.
[golygu] Renminbi
Uned gwreiddiol y renminbi yw'r yuan. Mae Yuan yn ysgrifenedig fel arfer fel 元, ond i rhwystro ffugio mae'n ysgrifenedig yn ffurfiol fel 圆. Ambell waith mae'r enw'r arian renminbi yn cael eu ddrysu gyda enw'r uned gwreiddiol yuan. Mae un yuan yn cynnwys 10 jiao (角). Mae 1 jiao yn cynnwys 10 fen (分). Y werth mwyaf o renminbi yw 100 yuan. Y lleiaf yw 1 fen.
[golygu] Y Normaniaid
Pobl sydd yn dod o Scandinafia (yn bennaf Llychlynwyr yn dod o Ddenmarc) ac yn byw yng ngogledd Ffrainc a Phrydain oedd y Normaniaid. O achos cwymp Gruffudd ap Llywelyn ym 1063 doedd Cymru ddim yn wlad cryf pan cyraeddodd Gwilym, Brenin Normaniaid Lloegr a sefydliodd ef iarllaethau yng Nghaer, Amwythig a Henffordd.
[golygu] Joseph Haydn
Cyfansoddwr o Awstria oedd Josef Haydn (31 Mawrth, 1732 - 31 Mai, 1809). Roedd yn un o brif gyfansoddwyr y cyfnod clasurol. Treuliodd y rhan helaethaf o'i yrfa fel cerddor llys i'r teulu cyfoethog Eszterhazy. Cafodd ei eni yn Rohrau, yn Awstria ger ffin Hwngari. Roedd yn frawd i Michael Haydn, a oedd hefyd yn gyfansoddwr, ac i Johann Evangelist Haydn, a oedd yn denor.
[golygu] Telyn
Offeryn cerdd gyda tannau yw'r Delyn. Mae nifer o'r beirdd yn disgrifio'r delyn yn ei barddoniaeth. Mae'n ymddangos fod y delyn Gymreig yn y bymthegfed a'r unfed ganrif ar bymtheg â cholofn syth iddi gyda'r seinfwlch wedi ei naddu o un darn o gelynen neu ywen.
[golygu] Morfuwch
Un o famaliaid mawr y dŵr yw'r forfuwch (teulu Trichechidae, rhywogaeth Trichechus). Mae'r Trichechidae yn wahanol i'r Dugongidae o ran siâp y penglog a'r gynffon. Mae cynffon y forfuwch ar ffurf rhwyf; cynffon fforchog sydd gan y dwgong. Llysysydd yw'r forfuwch, yn treulio llawer o'i hamser yn pori mewn dyfroedd beision.
[golygu] Afon Tafwys
Afon yn ne Lloegr sydd yn llifo trwy Lundain i Fôr y Gogledd yw Afon Tafwys. Tardd yr afon ger pentref Kemble yn ardal y Cotswolds. Yna llifa'r afon am 346km (215 milltir) trwy Rydychen, Reading, Maidenhead, Eton, Windsor a Llundain cyn cyrraedd Môr y Gogledd. Ystyrir bod yr afon yn aberu'n derfynol ger cefnen dywod y Nore.
[golygu] Gŵydd Wyllt
Mae'r Ŵydd wyllt (Anser anser) yn un o'r gwyddau mwyaf cyffredin. Ceir yr ŵydd yma yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop ac eithrio'r de-orllewin, a thrwy Asia cyn belled â China. Mae'n magu ei chywion ar dir gwlyb megis ar gorsdir, ar rostir neu'n agos at lyn. Mae'n ŵydd fawr, 74-84 cm o hyd a 149-168 cm ar draws yr adenydd. Mae'r plu yn llwyd. Gellir adnabod y rhywogaeth yma o blith y "gwyddau llwydion" eraill trwy fod ei phig yn binc (yn y ffurf Asiaidd) neu'n binc-oren (yn y ffurf Ewropeaidd), a'i choesau'n binc. Pan mae'n hedfan mae darnau mawr o liw llawer goleuach ar yr adenydd na sydd gan wyddau eraill.
[golygu] Alotrop
Mae gan rai elfennau yn eu ffurf bur fwy nag un ffurf bosibl i'w hadeiledd cemegol. Gelwir y gwahanol ffurfiau hyn yn alotropau. Mae'r term alotrop yn cynnwys moleciwlau o atomau o un elfen yn unig megis nwyon deuatomig. Un ffurf benodol o'r elfen yw'r ffurf sefydlog o dan unrhyw amodau (e.e. gwasgedd a thymheredd) penodol ond, os yw'r trawsnewidiad o un ffurf i'r llall yn digwydd yn araf gan fod egni actifadu uchel i'r broses, gall sawl ffurf o elfen fodoli ar yr un pryd. Mae gan alotropau o'r un elfen briodweddau gwahanol gan fod y bondio cemegol rhwng yr atomau ynddynt wedi eu trefnu'n wahanol.