Josef Haydn
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Josef Haydn cyfansoddwr ![]() |
|
Genedigaeth: |
31 Mawrth 1732 Rohrau, Awstria |
Marwolaeth: |
31 Mai 1809 Wien, Awstria |
Cyfansoddwr o Awstria oedd Franz Josef Haydn (31 Mawrth, 1732 - 31 Mai, 1809). Roedd yn un o brif gyfansoddwyr y cyfnod clasurol. Treuliodd y rhan helaethaf o'i yrfa fel cerddor llys i'r teulu cyfoethog Eszterhazy.
Cafodd ei eni yn Rohrau, yn Awstria ger ffin Hwngari. Roedd yn frawd i Michael Haydn, a oedd hefyd yn gyfansoddwr, ac i Johann Evangelist Haydn, a oedd yn denor.
Roedd ei dad Matthias Haydn yn gerddor gwerin brwd a dysgodd ei hun i ganu'r delyn. Roedd ei rieni wedi deall fod yna dalent yn eu mab, ac felly fe gytuno nhw ei fod yn mynd i fyw gyda perthynas iddyn nhw, Mattias Franck, ysgolfeistr a chorfeistr yn Hainburg rhyw ddeg milltir i ffwrdd, ac yntau ond yn chwech oed.
[golygu] Cerdd
- Symffoni rhif 22 ("Yr Athronydd"}
- Symffoni rhif 45 ("Ffarwel")
- Symffoni rhif 92 ("Rhydychen")
- Symffoni rhif 104 ("Llundain")
- Symffoni rhif 105 ("Sinfonia Concertante")
- Y Creadigaeth (oratorio)
- Offeren rhif 9 ("Nelson")