Prag
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Prifddinas a dinas fwyaf y Weriniaeth Tsiec yw Prag (Tsieceg Praha, Almaeneg Prag). Mae hi'n ddinas gan tua 1.2 miliwn o drigolion ar lân Afon Vitava. Mae canolfan hanesyddol y ddinas ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO.
Sefydlwyd y dref yn y nawfed ganrif ac mewn ychydig roedd llys brenhinol Bohemia yno. Roedd rhai o frenhinoedd Bohemia yn ymerodwyr yr Ymerodraeth Rufeinig Sanctaidd. Roedd y dref yn blodeuo yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg o dan reolaeth Siarl IV, a adeiladodd ran newydd y dref, Pont Siarl, Eglwys Gadeiriol San Vitus (eglwys gadeiriol Gothig hynaf yng Nghanolbarth Ewrop) a'r brifysgol, yr un hynaf yng Nghanolbarth Ewrop i'r gogledd o'r Alpau.
Cyn 1784 roedd yna bedair ardal annibyniol: Hradčany (Ardal y Castell i'r gogledd o'r castell), Malá Strana (Ardal y Dref Lai i'r de o'r castell), Staré Město (Ardal yr Hen Dref ar lân ddwyreiniol yr afon gyferbyn â'r castell) a Nové Město (Ardal y Dref Newydd i'r de-ddwyrain o'r castell). Mae'r ddinas yn cynnwys nifer o drefi eraill heddiw, e.e. Josefov, Žižkov, Barrandov, Holesovice a Vyšehrad.
Lladdwyd hyd at 50,000 o Iddewon yn ystod hil-laddiad y Natsïaid yn y ddinas yn ystod yr Ail Ryfel Byd.