Rhyfel Fiet Nam
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Gwrthdaro milwrol yn Fiet Nam o 1959 i 1975 oedd Rhyfel Fiet Nam, a ddechreuodd yn dilyn ymdrechion gan herwfilwyr comiwnyddol y Fiet Cong, gyda chefnogaeth llywodraeth gomiwnyddol Gogledd Fiet Nam, i ddymchwel llywodraeth De Fiet Nam. Lledaenodd hyn i ryfel rhyngwladol pan ymunodd cynghreiriaid â'r ddwy ochr (yn cynnwys yr Unol Daleithiau, De Corea ac Awstralia o blaid y De, a Tsieina, yr Undeb Sofietaidd a Gogledd Corea o blaid y Gogledd). Llwyddodd y Gogledd i uno'r wlad fel gwladwriaeth gomiwnyddol ar 30 Ebrill, 1975, pan cwympodd prifddinas y De, Saigon. Bu farw 2–2.5 miliwn o Asiaid De-Ddwyreiniol (y rhan fwyaf ohonynt yn sifiliaid), dros 58 000 o filwyr Americanaidd, a miloedd o filwyr o wledydd eraill.
[golygu] Strategaeth a thactegau ymladd
[golygu] Y Fiet Cong
Roedd tactegau ac arfau'r Fiet Cong yn is o ran technoleg na rhai'r Unol Daleithiau, er defnyddion nhw ambell i roced a thanc a gyflenwyd gan Tsieina ac UGSS. Defnyddion nhw eu cynefindra â'r tir i adeiladu rhwydweithiau eang o dwneli a ffosydd i guddio o'r fyddin Americanaidd.
[golygu] Yr Unol Daleithiau
Bu Unol Daleithiau America yn chwarae rhan fawr yn y rhyfel. Roedd technoleg newydd yn ffactor pwysig yn eu tactegau ymladd gyda awyrennau bomio B-52, hofrenyddion a lanswyr rocedi. Gwelwyd hefyd defnydd o ryfela cemegol gan y lluoedd Americanaidd, megis Agent Orange, chwynladdwr i rwystro'r Fiet Cong rhag cuddio yn y jyngl, a napalm, cemegyn sy'n llosgi croen.
Cychwynodd UDA Rolling Thunder yn 1965, ymosodiad o fomio strategol lle targedwyd porthladdoedd, canolfannau a llinellau cyflenwadau milwrol yng Ngogledd Fiet Nam i rwystro cefnogaeth i'r Fiet Cong. Parhaodd Byddin yr Unol Daleithiau â strategaeth Chwilio a Dinistrio trwy gydol y rhyfel, lle fu filwyr yn ymosod ar aneddiadau a'u dinistrio'n llwyr a lladd pob drigolyn.