William Jones (ieithegwr)
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Ieithegwr Prydeinig, ysgolhaig, Prif Ustus India a llywydd yr Asiatic Society of Bengal oedd Syr William Jones (28 Medi 1746 – 27 Ebrill 1794). Ganwyd yn San Steffan, Llundain o dras Cymreig: ei dad oedd y mathemategydd Cymreig William Jones.
[golygu] Jones a chydnabyddiaeth teulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd
Cofir William Jones heddiw yn bennaf am gofnodi'r berthynas hanesyddol rhwng mwyafrif ieithoedd Ewrop at ei gilydd ac at ieithoedd gogledd India, hynny yw, am gydnabod teulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd. Roedd ieithyddion cynharach, megis James Parsons ym 1767, wedi adnabod y berthynas hon a sylwi arni, ond William Jones oedd y cyntaf i sylwebu arno mewn ffordd flaengar. Mae ei sylwadau mewn darlith ar ddiwylliant India ym 1786, yn cydnabod i ieithoedd Ewrop a gogledd India darddu o'r un ffynhonell, wedi dod yn fydenwog fel cychwyn ieitheg gymharol fodern:
The Sanskrit language, whatever may be its antiquity, is of wonderful structure; more perfect than the Greek, more copious than the Latin, and more exquisitely refined than either; yet bearing to both of them a stronger affinity, both in the roots of verbs and in the forms of grammar, than could have been produced by accident; so strong that no philologer could examine all the three without believing them to have sprung from some common source, which, perhaps, no longer exists. There is a similar reason, though not quite so forcible, for supposing that both the Gothic and Celtic, though blended with a different idiom, had the same origin with the Sanskrit; and the old Persian might be added to the same family.
Seilir gwaith prif ieithegwyr cymharol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, megis Rasmus Rask, Franz Bopp, August Schleicher a Jakob Grimm, ar y sylwadau hyn.
[golygu] Jones a diwylliant India
Ym marn Jones, roedd gan bobl Ewrop chwaeth a rheswm, ond roedd yr Asiaid ar y llaw arall yn ‘soared to loftier heights in the sphere of imagination’ (Sengupta, Mashasweta, ‘Translation as Manipulation’, in Dingwaney and Maier (eds.), Between Languages and Cultures: Translation and Cross-Cultural Texts). Cyfieithodd Jones ac ysgolheigion eraill lenyddiaeth India mewn ymdrech i ailgipio'r 'oes aur' a gafwyd cyn yr Oesoedd Canol a theyrnasoedd Islamaidd yr isgyfandir. Darparodd ddau gyfieithiad penodol: Gitagivinda gan Jayadeva o'r ddegfed ganrif a gyfieithiodd ym 1792, a Sakuntala gan Kalidasa ym 1789, testun sy'n dyddio o'r ganrif gyntaf OC. Roedd y ddau gyfieithiad hyn yn boblogaidd iawn yn Ewrop a honnai Jones mai hwy oedd yn bennaf gyfrifol am greu "delwedd" o India a ystyriwyd yn gynrychioliad dilys o'i diwylliant. Fodd bynnag, yn ei gyfieithiadau o destunau Asiaidd, lluniodd Jones a'i gyfoedion y gweithiau i greu "delwedd" a fyddai'n gweddu i'r chwaeth Ewropeaidd.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.