Yr Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Sefydlwyd yr Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol (IAEA, Saesneg: International Atomic Energy Agency) ar 29 Gorffennaf, 1957 i ehangu a chryfhau cyfraniadau ynni atomig i heddwch, iechyd a ffyniant. Mae'n cynorthwyo aelod-gwladwriaethau, yn enwedig gwledydd datblygol, trwy ddarparu cyfleusterau ar gyfer gwyddoniaeth a thechnoleg niwclear, yn cynnwys adweithyddion niwclear, arian i gyllido ymchwil, a chymorth a gwybodaeth gyffredinol ynglŷn â defnyddiau heddychlon ynni atomig. Mae'r IAEA hefyd yn ymchwilio i ffynonellau ynni i ddisodli tanwyddau ffosil.
[golygu] Aelodau
Mae pob un o aelod-gwladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig, gan gynnwys Dinas y Fatican, yn aelodau'r IAEA ar wahân i'r canlynol:
|
[golygu] Cyfarwyddwyr Cyffredinol
- W. Sterling Cole (1957–1961)
- Sigvard Eklund (1961–1981)
- Hans Blix (1981–1997)
- Mohamed ElBaradei (1997–presennol)
[golygu] Cysylltiadau allanol
- (Saesneg) Gwefan yr IAEA