Andorra
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
|
|||||
Arwyddair: Virtus Unita Fortior | |||||
Anthem: El Gran Carlemany, Mon Pare | |||||
Prifddinas | Andorra la Vella | ||||
Dinas fwyaf | Andorra la Vella | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Catalaneg | ||||
Llywodraeth
• Hanner-Tywysog Ffrengig
• Hanner-Tywysog Esgobol • Pennaeth Llywodraeth |
Tywysogaeth Jacques Chirac Joan Enric Vives Sicília Albert Pintat Santolària |
||||
Annibynniaeth • Paréage |
1278 |
||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
468 km² (193fed) Dim |
||||
Poblogaeth - amcangyfrif 2006 - cyfrifiad 2004 - Dwysedd |
67,313 (202fed) 69,150 152/km² (69fed) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
amcangyfrif 2003 $1.9 biliwn (183fed) $26,800 (-) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (-) | - (-) – - | ||||
Arian breiniol | Ewro (EUR ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
CET (UTC+1) CEST (UTC+2) |
||||
Côd ISO y wlad | .ad | ||||
Côd ffôn | +376 |
Gwlad fechan yn ne-orllewin Ewrop yw Tywysogaeth Andorra neu Andorra sy'n ffinio â Ffrainc a Sbaen. Wedi'i chuddio bron ym mynyddoedd y Pyreneiau, mae tywysogaeth Andorra'n dibynnu ar y diwydiant twristiaeth yn bennaf. Gwlad yn llawn dyffrynnoedd cul a thirwedd fynyddig ydyw a'i phrifddinas yw Andorra la Vella.
Mae dros ddeng miliwn o dwristiaid yn heidio i'r wlad hon bob blwyddyn, fe'u denir gan sgïo, y tywydd braf a'r ystod eang o nwyddau rhad o gymharu â'r gwledydd sy'n ffinio â hi.
Ers dros saith gan mlynedd bellach, rheolir y wlad ar y cyd gan arweinydd Ffrainc a Derwydd Urgel o Sbaen. Pasiwyd y cyfansoddiad seneddol cyntaf ym 1993 gan sefydlu cyd-dywysogaeth seneddol yno. Prif Weinidog y wlad yw Albert Pintat o'r Blaid Ryddfrydol a chafodd ei ethol wedi'r etholiadau cyffredinol yn Ebrill 2005. Er bod y cyd-dywysogion yn dal i fod yn arweinwyr y wlad, rôl anrhydeddus sydd ganddynt mewn gwirionedd.
Ceir poblogaeth o 64,000 yn y wlad, er bod llawer o'r rheiny'n hannu o Sbaen yn wreiddiol. Yr iaith swyddogol yw'r Gatalaneg er bod Sbaeneg ac, i raddau llai, Ffrangeg hefyd yn cael eu siarad. Prif grefydd y wlad yw Cristnogaeth ac mae Andorra'n un o'r gwledydd sy'n defnyddio'r Ewro. Mae'n cynhyrchu ei fersiynau eu hunan o'r darnau Ewro, fel pob un arall o'r gwledydd sy'n rhan o'r Ewro.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.